Q: Pa fwyd sydd raid inni ei gynnig yn ein meithrinfa gofal dydd a’n clwb gwyliau? A oes raid i bob aelod o’n staff fod â thystysgrif hylendid bwyd?
A:
Mae’r person cofrestredig yn sicrhau bod y plant yn derbyn bwyd a diod sydd wedi ei baratoi’n gywir, sy’n faethlon ac sy’n cydymffurfio â gofynion deietegol a chrefyddol. Mae hyn yn ofynnol gan y safonau gofynnol cenedlaethol. Rhaid bod dŵr yfed ffres ar gael i’r plant gydol yr adeg.
Rhaid storio’r holl fwyd yn ddiogel, ac os darperir byrbrydau a diodydd, rhaid i’r person a gofrestrir ofyn am wybodaeth gan rieni ynglŷn ag unrhyw ofynion deietegol arbennig, alergeddau neu fwydydd sy’n well gan y plentyn. Lle ceir y rhain rhaid i’r person cofrestredig wneud cofnod a gweithredu ar y wybodaeth a roddir. Dylid cynnig i blant sy’n mynychu’r clwb am ddiwrnod cyfan bryd canol dydd neu becyn cinio, y gall y rhieni ei baratoi. Rhoddir gwybod i rieni beth a ellir ei storio’n ddiogel. Dylai fod cyfleusterau ar gael i alluogi plant i eistedd wrth fyrddau ar adegau bwyd.


