{"id":12356,"date":"2026-07-31T14:20:49","date_gmt":"2026-07-31T14:20:49","guid":{"rendered":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/?p=12356"},"modified":"2026-07-31T14:23:00","modified_gmt":"2026-07-31T14:23:00","slug":"rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/","title":{"rendered":"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs"},"content":{"rendered":"<p>Ydych chi erioed wedi prynu rhywbeth newydd, dim ond i ganfod bod y plant \u00e2 mwy o ddiddordeb yn y bocs y daeth ynddo?<\/p>\n<p>I ni, efallai mai bocs cardbord syml ydyw. I blentyn, gallai fod yn gar, yn siop, yn guddfan, yn long ofod, yn lwyfan, yn rhywle i guddio neu\u2019n rhywbeth hollol wahanol nad oeddem ni hyd yn oed wedi\u2019i ystyried.<\/p>\n<p>Dyma chwarae \u00e2 rhannau rhydd.<\/p>\n<p><strong>Beth yw rhannau rhydd?<\/strong><\/p>\n<p>Mae rhannau rhydd yn ddeunyddiau a gwrthrychau bob dydd y gall plant eu symud, eu cario, eu cyfuno, eu tynnu\u2019n ddarnau, eu hailgynllunio a\u2019u defnyddio mewn gwahanol ffyrdd yn eu chwarae. Yn wahanol i lawer o deganau ac adnoddau traddodiadol, nid oes ganddynt un diben penodol na ffordd \u201cgywir\u201d o chwarae \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Gall rhannau rhydd gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>bocsys a thiwbiau cardbord<\/li>\n<li>cewyll a chynwysyddion<\/li>\n<li>ffabrig<\/li>\n<li>blancedi<\/li>\n<li>hen ddillad<\/li>\n<li>pegiau a rhaff<\/li>\n<li>bwcedi<\/li>\n<li>cafnau d\u0175r<\/li>\n<li>pibellau a chylchoedd<\/li>\n<li>teiars<\/li>\n<li>planciau a darnau o bren<\/li>\n<li>potiau<\/li>\n<li>sosbenni ac offer cegin<\/li>\n<li>cerrig, ffyn, dail, cregyn, moch coed, mwd, tywod a d\u0175r<\/li>\n<li>deunyddiau wedi\u2019u hailgylchu a deunyddiau sgrap<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Damcaniaeth rhannau rhydd \u2013 Pam mae rhannau rhydd mor werthfawr?<\/strong><\/p>\n<p>Mae Damcaniaeth Rhannau Rhydd Simon Nicholson (1971) yn awgrymu bod cyfoeth amgylchedd yn cael ei bennu gan nifer ac amrywiaeth y newidynnau sydd ar gael i bobl ryngweithio \u00e2 nhw. Mewn chwarae, mae \u201crhannau rhydd\u201d yn ddeunyddiau penagored y gall plant eu symud, eu cyfuno, eu hailgynllunio a\u2019u hailbwrpasu mewn ffyrdd di-rif. Dadleuodd Nicholson fod y deunyddiau hyn yn annog creadigrwydd, datrys problemau, dychymyg a meddwl annibynnol oherwydd nad oes un ffordd \u201cgywir\u201d o\u2019u defnyddio. Trwy roi rhyddid i blant archwilio a thrin rhannau rhydd, mae amgylcheddau chwarae yn dod yn fwy deniadol, yn fwy dan arweiniad y plentyn, ac yn fwy ymatebol i ddiddordebau a syniadau unigol.<\/p>\n<p><strong>Chwarae\u2019n Rhydd<\/strong><\/p>\n<p>Nid beth yw\u2019r gwrthrych yw\u2019r peth pwysicaf mewn gwirionedd. Yr hyn sy\u2019n bwysig yw beth y gall y plentyn ei wneud gyda\u2019r peth. Os ydych chi\u2019n ansicr sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol, mae fideo Scrapstore PlayPods (yn Saesneg) yn enghraifft wych:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Scrapstore Playpods in Action\" width=\"500\" height=\"375\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/nqi1KyJJeKg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Yn hytrach nag oedolion yn gosod gweithgaredd wedi\u2019i gynllunio, rhoddir mynediad i blant at amrywiaeth o ddeunyddiau sgrap, ac mae\u2019r posibiliadau\u2019n datblygu o hynny ymlaen.<\/p>\n<p><strong><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">Mae\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW183066860 BCX8\">rhannau<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW183066860 BCX8\">rhydd<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW183066860 BCX8\">ar<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW183066860 BCX8\">gyfer<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW183066860 BCX8\">pob<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW183066860 BCX8\">oedran<\/span><\/strong><\/p>\n<p>Weithiau gallwn gysylltu rhannau rhydd \u00e2 phlant ifanc, yn enwedig pan fyddwn yn dychmygu bocsys, ffabrig, mwd a deunyddiau naturiol. Ond nid oes oedran pan fydd plant yn sydyn yn rhoi\u2019r gorau i elwa ar chwarae penagored. Yr hyn sy\u2019n newid yn aml yw sut maen nhw\u2019n defnyddio\u2019r adnoddau.<\/p>\n<p>Gallai plentyn ifanc eistedd y tu mewn i focs cardbord a chogio mai car ydyw. Gallai plant h\u0177n uno sawl bocs \u00e2\u2019i gilydd i greu strwythur, datblygu rheolau ar gyfer g\u00eam, neu eu datgymalu\u2019n llwyr er mwyn defnyddio\u2019r cardbord ar gyfer rhywbeth arall.<\/p>\n<p>Wrth i blant fynd yn h\u0177n, gall rhannau rhydd gefnogi gwydnwch, meddwl beirniadol, dylunio, cydweithio ac arbrofi. Dychmygwch gr\u0175p yn ceisio adeiladu cuddfan gan ddefnyddio cewyll, ffabrig, rhaff a darnau o bren. Mae\u2019n dal i gwympo. Maen nhw\u2019n trafod beth sydd wedi mynd o\u2019i le, yn profi syniadau gwahanol ac yn addasu eu dyluniad nes ei fod yn gweithio.<\/p>\n<p>Adeiladwyr cuddfannau, tinceriaid a chrewyr heddiw yw peirianwyr, dylunwyr ac entrepreneuriaid yfory. Mae rhannau rhydd yn rhoi\u2019r rhyddid i blant h\u0177n a phobl ifanc arbrofi, mentro, addasu ac arloesi. Drwy archwilio sut mae pethau\u2019n gweithio a sut y gellid eu gwella, maen nhw\u2019n datblygu\u2019r chwilfrydedd, y creadigrwydd a\u2019r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen mewn byd sy\u2019n newid yn barhaus.<\/p>\n<p>Mae\u2019r profiadau hyn yn ymwneud \u00e2 llawer mwy na chadw plant yn brysur. Wrth i blant drin, profi a thrawsnewid rhannau rhydd, maen nhw\u2019n datblygu ystod eang o sgiliau a galluoedd wrth barhau i fod wedi ymgolli\u2019n llwyr yn eu chwarae.<\/p>\n<p><strong>Pam mae Rhannau Rhydd yn Bwysig<\/strong><\/p>\n<p>Mae chwarae \u00e2 rhannau rhydd wrth wraidd Egwyddorion Gwaith Chwarae 1 a 2.<\/p>\n<p>Mae Egwyddor Gwaith Chwarae 1 yn ein hatgoffa bod angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae\u2019r awydd i chwarae yn gynhenid, ac mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad iach, llesiant a bywyd cymunedol. Mae rhannau rhydd yn cefnogi\u2019r awydd naturiol hwn drwy roi cyfleoedd diddiwedd i blant archwilio, creu, arbrofi ac ymgysylltu \u00e2\u2019r byd o\u2019u cwmpas mewn ffyrdd sy\u2019n ystyrlon iddyn nhw.<\/p>\n<p>Mae Egwyddor Gwaith Chwarae 2 yn disgrifio chwarae fel proses sy\u2019n cael ei dewis yn rhydd, ei chyfeirio\u2019n bersonol a\u2019i hysgogi\u2019n gynhenid. Nid oes gan rannau rhydd ddiben penodol nac unrhyw ganlyniad wedi\u2019i bennu ymlaen llaw. Gall bocs cardbord droi\u2019n long ofod, yn gastell, yn gar rasio, yn stondin farchnad neu\u2019n rhywbeth hollol wahanol. Plant sy\u2019n penderfynu beth mae\u2019r adnoddau\u2019n ei olygu, sut maen nhw\u2019n cael eu defnyddio, ac i ble y bydd eu chwarae\u2019n mynd nesaf. Maen nhw\u2019n rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae drwy ddilyn eu syniadau, eu diddordebau a\u2019u greddfau eu hunain.<\/p>\n<p>Mae hyn yn cefnogi Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau\u2019r Plentyn (CCUHP) yn uniongyrchol, sy\u2019n cydnabod hawl pob plentyn i orffwys, hamdden, chwarae, gweithgareddau adloniadol a chymryd rhan mewn bywyd diwylliannol. Mae darparu mynediad at rannau rhydd yn un ffordd o sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd gwirioneddol i arfer yr hawl honno drwy brofiadau chwarae cyfoethog ac ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae rhannau rhydd hefyd yn cysylltu\u2019n agos \u00e2 Damcaniaeth Hyblygrwydd Cyfansawdd Fraser Brown. Mae Brown yn dadlau bod plant yn byw fwyfwy mewn amgylcheddau sydd wedi\u2019u strwythuro\u2019n dynn, eu hamserlennu ac sy\u2019n rhagweladwy. Mewn cyferbyniad, mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau sy\u2019n llawn posibiliadau, ansicrwydd a newid. Gall casgliad o gewyll, ffabrig, rhaffau a phlanciau droi\u2019n bron unrhyw beth, a gall y chwarae esblygu o funud i funud yn \u00f4l syniadau\u2019r plant.<\/p>\n<p>Mae\u2019r hyblygrwydd hwn yn galluogi plant i addasu, trafod, datrys problemau, mentro\u2019n briodol ac ymateb yn greadigol i heriau. Boed yn adeiladu cuddfannau, yn dyfeisio, yn datblygu gemau neu\u2019n trawsnewid deunyddiau bob dydd yn rhywbeth hollol newydd, mae plant yn datblygu gwydnwch, hyder, annibyniaeth, creadigrwydd a meddwl beirniadol.<\/p>\n<p>Pan fyddwn yn darparu rhannau rhydd, rydym yn gwneud llawer mwy na chynnig adnoddau. Rydym yn diogelu hawl plant i chwarae, yn cefnogi chwarae sy\u2019n cael ei ddewis yn rhydd ac sy\u2019n cael ei gyfeirio gan y plentyn ei hun, ac yn creu amgylcheddau lle gall plant ddatblygu\u2019r sgiliau, yr agweddau a\u2019r dychym.<\/p>\n<p><strong>Beth ddylem ni ei ddarparu?<\/strong><\/p>\n<p>Nid oes rhestr siopa berffaith ar gyfer rhannau rhydd, ac nid oes angen i leoliadau lenwi sied \u00e2 channoedd o adnoddau yn sydyn. Dechreuwch gyda\u2019r hyn sydd gennych eisoes.<\/p>\n<p>Edrychwch ar eich amgylchedd a gofynnwch i chi\u2019ch hun: Faint o\u2019n hadnoddau y gall plant eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol mewn gwirionedd? Mae cymysgedd yn ddefnyddiol. Ystyriwch adnoddau mawr a bach, deunyddiau naturiol a rhai wedi\u2019u cynhyrchu, pethau y gellir eu cludo, pethau y gellir adeiladu \u00e2 nhw, deunyddiau sy\u2019n gallu gorchuddio neu gysylltu pethau, ac adnoddau sy\u2019n cynnig gwahanol weadau a phrofiadau synhwyraidd.<\/p>\n<p>Nid oes angen i chi eu prynu o reidrwydd chwaith. Efallai bod gan deuluoedd ddeunyddiau nad oes eu hangen arnynt mwyach, gall busnesau lleol fod \u00e2 darnau dros ben neu becynnau diogel, a gall siopau elusen, storfeydd sgrap a byd natur i gyd gynnig posibiliadau.<\/p>\n<p>Dylai plant hefyd gael eu cynnwys. Gwyliwch beth maen nhw eisoes yn dewis chwarae ag ef a siaradwch \u00e2 nhw am yr hyn yr hoffent ei gael ar gael. Mae\u2019r adnodd Chwarae\u2019n Rhydd yn cysylltu\u2019r ymgynghori hwn ag Erthygl 12 o CCUHP a hawl plant i gael eu barn wedi\u2019i hystyried mewn penderfyniadau sy\u2019n effeithio arnynt.<\/p>\n<p><strong>Rhwystrau Canfyddedig<\/strong><\/p>\n<blockquote><p><span class=\"TextRun SCXW261920498 BCX8\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW261920498 BCX8\">\u201cOnd ble ydyn ni\u2019n mynd i roi\u2019r cyfan?<\/span><\/span><span class=\"TextRun SCXW261920498 BCX8\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW261920498 BCX8\">\u201d<\/span><\/span><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae cadw yn debygol o fod yn un o\u2019r rhwystrau ymarferol cyntaf y bydd llawer o leoliadau\u2019n meddwl amdano \u2013 yn enwedig clybiau sy\u2019n gweithredu o fannau sy\u2019n cael eu rhannu, lle mae angen i bopeth ddiflannu ar ddiwedd y sesiwn.<\/p>\n<p>Ac mae hynny\u2019n ddealladwy.<\/p>\n<p>Nid yw darparu rhannau rhydd yn golygu cadw popeth y mae unrhyw un yn ei gynnig i chi.<\/p>\n<p>Dechreuwch yn fach. Gall ychydig o focsys y gellir eu pentyrru, sy\u2019n cynnwys ffabrig, tiwbiau, pegiau, cynwysyddion ac adnoddau hyblyg eraill, gynnig nifer enfawr o bosibiliadau.<\/p>\n<blockquote><p><span class=\"TextRun SCXW261920498 BCX8\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW261920498 BCX8\">\u201c<span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW125560000 BCX8\">Mae\u2019n<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW125560000 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW125560000 BCX8\">edrych<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW125560000 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW125560000 BCX8\">fel<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW125560000 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW125560000 BCX8\">sbwriel<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW125560000 BCX8\">!<\/span>\u201d<\/span><\/span><\/p><\/blockquote>\n<p>Gall hyn fod yn rhwystr arall.<\/p>\n<p>Efallai y bydd rhieni, ymwelwyr a hyd yn oed aelodau eraill o staff yn meddwl tybed pam mae plant yn chwarae gyda thiwbiau cardbord, hen deiars a ffabrig pan fo gan y lleoliad \u201cdeganau go iawn\u201d.<\/p>\n<p>Mae adnodd hyfforddi Chwarae\u2019n Rhydd ei hun yn cydnabod rhai o\u2019r rhwystrau hyn, gan gynnwys storio, cael gafael ar ddeunyddiau, llanast, pryderon am beth y gallai rhieni ei feddwl, a Gweithwyr Chwarae\u2019n teimlo bod angen i chwarae gael canlyniad.<\/p>\n<p>Dyma lle gallwn eiriol dros chwarae.<\/p>\n<p>Gall rhannau rhydd greu llanast.<\/p>\n<p>Bydd plant yn symud pethau. Dylem ofyn a yw ein hawydd am amgylchedd taclus yn cyfyngu ar chwarae plant yn anfwriadol.<\/p>\n<p>Weithiau mae amgylchedd chwarae yn edrych fel ei fod wedi cael ei chwarae ynddo oherwydd bod plant wedi bod yn chwarae ynddo.<\/p>\n<p><strong>Casgliad<\/strong><\/p>\n<p>Meddyliwch am bosibiliadau, nid gweithgareddau.<\/p>\n<p>Gall rhannau rhydd hefyd herio\u2019r ffordd rydym yn meddwl am gynllunio.<\/p>\n<p>Fel Gweithwyr Chwarae, nid oes angen i ni bob amser benderfynu beth fydd plant yn ei greu cyn i ni ddarparu\u2019r adnoddau. Yn hytrach na chynllunio gweithgareddau, gallwn greu posibiliadau.<\/p>\n<p>Yn hytrach na gofyn:<\/p>\n<blockquote><p><span class=\"TextRun SCXW261920498 BCX8\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW261920498 BCX8\">\u201c<span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">Pa\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW240429989 BCX8\">weithgaredd<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW240429989 BCX8\">rydym<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW240429989 BCX8\">yn<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW240429989 BCX8\">ei<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW240429989 BCX8\">ddarparu<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW240429989 BCX8\">heddiw<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW240429989 BCX8\">?<\/span><\/span><\/span><span class=\"TextRun SCXW261920498 BCX8\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW261920498 BCX8\">\u201d<\/span><\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW158324278 BCX8\">G<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW158324278 BCX8\">allem<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW158324278 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW158324278 BCX8\">ofyn<\/span>:<\/p>\n<blockquote><p><span class=\"TextRun SCXW261920498 BCX8\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"none\"><span class=\"NormalTextRun SCXW261920498 BCX8\">\u201c<span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">Pa\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">gyfleoedd<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">rydym<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">yn<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">eu<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">creu<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">i<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">blant<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">archwilio<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">,\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">dychmygu<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">\u00a0a\u00a0<\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW65481759 BCX8\">chwarae<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW65481759 BCX8\">?<\/span>\u201d<\/span><\/span><\/p><\/blockquote>\n<p>Oherwydd weithiau nid y tegan newydd drud yw\u2019r adnodd mwyaf gwerthfawr yn yr ystafell.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, y bocs y daeth ynddo yw e.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dolenni Defnyddiol:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.playscotland.org\/wp-content\/uploads\/1-Loose-Parts-Play.pdf\">https:\/\/www.playscotland.org\/wp-content\/uploads\/1-Loose-Parts-Play.pdf<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/chwarae.cymru\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2023\/03\/Pecyn-cymorth-rhannau-rhydd.pdf\">https:\/\/chwarae.cymru\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2023\/03\/Pecyn-cymorth-rhannau-rhydd.pdf<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ydych chi erioed wedi prynu rhywbeth newydd, dim ond i ganfod bod y plant \u00e2 mwy o ddiddordeb yn y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":42,"featured_media":12357,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[24,23,582,26,25],"tags":[],"class_list":["post-12356","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-aelodau","category-clybiau","category-cyhoeddus","category-gweithwyrchwarae","category-rhieni"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.9 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs - Clybiau Plant Cymru (CY)<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs - Clybiau Plant Cymru (CY)\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ydych chi erioed wedi prynu rhywbeth newydd, dim ond i ganfod bod y plant \u00e2 mwy o ddiddordeb yn y [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clybiau Plant Cymru (CY)\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-07-31T14:20:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-07-31T14:23:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/07\/loose-parts.webp?wsr\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"628\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/webp\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"alicem\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"alicem\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"alicem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b7c94e250d5dc8622692ab47d2e2f33b\"},\"headline\":\"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs\",\"datePublished\":\"2026-07-31T14:20:49+00:00\",\"dateModified\":\"2026-07-31T14:23:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/\"},\"wordCount\":1684,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/2\\\/2026\\\/07\\\/loose-parts.webp?wsr\",\"articleSection\":[\"Aelodau\",\"Clybiau\",\"Cyhoeddus\",\"Gweithwyr Chwarae\",\"Rhieni\"],\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/\",\"name\":\"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs - Clybiau Plant Cymru (CY)\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/2\\\/2026\\\/07\\\/loose-parts.webp?wsr\",\"datePublished\":\"2026-07-31T14:20:49+00:00\",\"dateModified\":\"2026-07-31T14:23:00+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b7c94e250d5dc8622692ab47d2e2f33b\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/2\\\/2026\\\/07\\\/loose-parts.webp?wsr\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/2\\\/2026\\\/07\\\/loose-parts.webp?wsr\",\"width\":1200,\"height\":628},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Clybiau Plant Cymru (CY)\",\"description\":\"Just another Clybiau Plant Cymru Sites site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b7c94e250d5dc8622692ab47d2e2f33b\",\"name\":\"alicem\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5c120fcbc34d954b9a844bf760c1e29531e85bd2c92c99c6de1c484c09ea3e3f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5c120fcbc34d954b9a844bf760c1e29531e85bd2c92c99c6de1c484c09ea3e3f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5c120fcbc34d954b9a844bf760c1e29531e85bd2c92c99c6de1c484c09ea3e3f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"alicem\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/clybiauplantcymru.org\\\/cy\\\/author\\\/alicem\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs - Clybiau Plant Cymru (CY)","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs - Clybiau Plant Cymru (CY)","og_description":"Ydych chi erioed wedi prynu rhywbeth newydd, dim ond i ganfod bod y plant \u00e2 mwy o ddiddordeb yn y [&hellip;]","og_url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/","og_site_name":"Clybiau Plant Cymru (CY)","article_published_time":"2026-07-31T14:20:49+00:00","article_modified_time":"2026-07-31T14:23:00+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":628,"url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/07\/loose-parts.webp?wsr","type":"image\/webp"}],"author":"alicem","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"alicem","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/"},"author":{"name":"alicem","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/b7c94e250d5dc8622692ab47d2e2f33b"},"headline":"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs","datePublished":"2026-07-31T14:20:49+00:00","dateModified":"2026-07-31T14:23:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/"},"wordCount":1684,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/07\/loose-parts.webp?wsr","articleSection":["Aelodau","Clybiau","Cyhoeddus","Gweithwyr Chwarae","Rhieni"],"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/","url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/","name":"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs - Clybiau Plant Cymru (CY)","isPartOf":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/07\/loose-parts.webp?wsr","datePublished":"2026-07-31T14:20:49+00:00","dateModified":"2026-07-31T14:23:00+00:00","author":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/b7c94e250d5dc8622692ab47d2e2f33b"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#primaryimage","url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/07\/loose-parts.webp?wsr","contentUrl":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/07\/loose-parts.webp?wsr","width":1200,"height":628},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/rhannau-rhydd-nid-bocs-yn-unig-yw-bocs\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Rhannau Rhydd: Nid Bocs yn Unig yw Bocs"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/","name":"Clybiau Plant Cymru (CY)","description":"Just another Clybiau Plant Cymru Sites site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/b7c94e250d5dc8622692ab47d2e2f33b","name":"alicem","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5c120fcbc34d954b9a844bf760c1e29531e85bd2c92c99c6de1c484c09ea3e3f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5c120fcbc34d954b9a844bf760c1e29531e85bd2c92c99c6de1c484c09ea3e3f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5c120fcbc34d954b9a844bf760c1e29531e85bd2c92c99c6de1c484c09ea3e3f?s=96&d=mm&r=g","caption":"alicem"},"url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/author\/alicem\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12356","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/42"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12356"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12356\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12360,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12356\/revisions\/12360"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12357"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12356"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12356"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12356"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}