{"id":9541,"date":"2025-03-14T10:43:37","date_gmt":"2025-03-14T10:43:37","guid":{"rendered":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/?p=9541"},"modified":"2025-03-14T10:43:37","modified_gmt":"2025-03-14T10:43:37","slug":"celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/","title":{"rendered":"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025"},"content":{"rendered":"<p>Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids&#8217; Clubs ein 4ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar Fawrth 12<sup>fed<\/sup> 2025, gan ffrydio&#8217;n fyw ar YouTube a thros 1,000 o ymweliadau hyd yma! Hoffem ddiolch i\u2019n siaradwyr gwadd trwy ddarparu gwybodaeth mor addysgiadol, perthnasol a diddorol: <strong>Pip Dimmock \u2013 Prif Swyddog Gweithredol Interplay, a Charon Eastlake, Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Gofal Plant a Chwarae, Is-Adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, Llywodraeth Cymru<\/strong>.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd deg gwobr, a chawsom lawer o enwebiadau teilwng ar eu cyfer, sy&#8217;n dangos y gwaith gwych sy&#8217;n digwydd yn y sector i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, teuluoedd a chymunedau. Llongyfarchiadau i\u2019r holl Weithwyr Chwarae, Gwirfoddolwyr, Rheolwyr, Pwyllgorau a Chlybiau a enwebwyd ledled Cymru a\u2019r enillwyr. Mae wir yn fraint eich cefnogi chi a&#8217;ch clybiau.<\/p>\n<p>Ein Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025.<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\"><strong>Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025<\/strong><\/span><\/p>\n<p><strong>Hyrwyddwr Iaith Gymraeg: Clwb Ol-Ysgol Two Tribes, Sir Fynwy<\/strong>\u200b<\/p>\n<p>Clwb Gofal Plant Allysgol sydd \u200bwedi hyrwyddo\u2019r Iaith Gymraeg ac wedi ymdrechu i wella lefel y \u200bGymraeg sy\u2019n cael ei\u200b hymgorffori yn\u00a0 y Lleoliad, a chefnogi eu dysgu eu hunain \u200b<\/p>\n<p>neu ddysgu o eiddo eraill. \u200b<\/p>\n<p>\u200b\u201cMae hwn yn wasanaeth llwyddiannus sy\u2019n cael ei redeg yn dda, sydd wedi\u2019i gofrestru gydag AGC ers mis Gorffennaf 2014. Mae\u2019r gwasanaeth wedi\u2019i leoli tua 1.5 milltir o Bont Tywysog Cymru mewn ardal Saesneg ei hiaith yn bennaf. Mae\u2019r clwb wedi bod yn ymwneud yn llawn \u00e2 Chlybiau Plant Cymru Kids\u2019 Clubs ers blynyddoedd lawer, mae\u2019r staff bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ymgorffori\u2019r Gymraeg yn y lleoliad ac eisoes wedi dechrau integreiddio rhywfaint o Gymraeg o fewn y drefn feunyddiol, hyd yn oed cyn dilyn y cwrs Camau. Rwyf bob amser wedi fy nghyfareddu gan frwdfrydedd ac ymroddiad yr arweinyddiaeth a\u2019r staff tuag at annog defnydd o\u2019r Gymraeg o fewn y lleoliad. Mae\u2019r holl staff yn cyfarch rhieni bob dydd drwy ddweud \u2018prynhawn da\u2019 ac yn defnyddio\u2019r Gymraeg sydd ganddynt. Mae hyn wedi arwain at adborth cadarnhaol iawn gan lawer o rieni a gwarcheidwaid yngl\u0177n \u00e2\u2019u defnydd o\u2019r Gymraeg; y gwarcheidwaid Cymraeg eu hiaith yn canmol eu hymdrechion a rhai rhieni cyfrwng Saesneg bellach yn ymateb i\u2019w cyfarchion yn Gymraeg hefyd. Mae\u2019r clwb hwn wedi diweddaru eu Datganiad Hunanasesiad diweddaraf i ddweud eu bod yn gweithio\u2019n frwd tuag at y Cynnig Rhagweithiol, ac mae\u2019r staff yn awyddus i barhau \u00e2\u2019u gwaith gwych a\u2019u hymrwymiad i\u2019r Gymraeg a\u2019r Cynnig Rhagweithiol.\u201d\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9542\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/1-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/1-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/1-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/1-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/1.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cefnogi Llesiant Staff\u200b: Meithrinfa Plantos Nursery, Caerdydd<\/strong><\/p>\n<p>Rheolwr, Perchennog, Arweinydd Chwarae neu Bwyllgor sydd wedi \u200bymdrechu i gefnogi iechyd meddyliol a llesiant eu staff, er mwyn creu amgylchedd chwarae \u200bsy\u2019n iach ac yn gadarnhaol. \u200b<\/p>\n<p>Mae lles y plant a&#8217;r staff ar agenda pob cyfarfod yn y feithrinfa. Mae&#8217;r perchennog yn rhannu gwybodaeth yn fisol am wahanol bynciau i helpu gydag iechyd meddwl. Mae&#8217;r tri rheolwr yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Rydym yn cyflwyno calendr lles i bob aelod o staff yn fisol a hefyd yn eu cyfeirio at rifau llinellau cymorth. Mae bocs hunangymorth yn ystafell y staff a bwletinau ar y wal. Mae arolwg hefyd yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn i weld sut rydyn ni fel meithrinfa yn delio \u00e2 lles ein staff. Mae gennym nosweithiau allan, siopau cludfwyd, danteithion i&#8217;r staff ac anrhegion dros y Nadolig. Rydym hefyd yn rhoi tystysgrifau am bresenoldeb yn y gwaith. Mae lles hefyd yn bwynt ar ein hadolygiadau staffio 1-1 chwarterol.\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9544\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/8-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/8-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/8-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/8-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/8.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gwirfoddolwr y Flwyddyn\u200b: Menna Machreth, Clwb Plant Segontiwm, Gwynedd<\/strong><\/p>\n<p>Gwirfoddolwr sydd wedi \u200bGweithio\u2019n\u00a0 galed ac wedi buddsoddi eu hamser eu \u200bhunain i gefnogi eu Clwb Gofal \u200bPlant All-ysgol a\u2019r gymuned. \u200b<\/p>\n<p>Mae Menna wedi bod rhodd oddi uchod i&#8217;n clwb ni, gan ein helpu i gefnogi datblygiad y clwb gan fynd drwy\u2019r broses dendro yn ogystal \u00e2 chefnogi a bod yn aelod gweithgar o\u2019r pwyllgor. Mae Menna wedi bod yn ysgrifennydd y pwyllgor am ychydig llai na 2 flynedd hyd yn hyn ac er ei bod yn gweithio\u2019n ddyddiol, a bod ganddi deulu gartref, mae wedi rhoi cymaint o gefnogaeth \u2013 a&#8217;I hamser &#8211; i ni i helpu i ddod \u00e2\u2019r clwb yn ei flaen. Mae Menna wedi gallu defnyddio ei phrofiad proffesiynol o weithio gyda Mudiad Meithrin i\u2019n cynorthwyo gyda pholis\u00efau a gweithdrefnau, yn ogystal \u00e2 phethau gweinyddol eraill. Mae Menna wedi cefnogi ein staff i ennill eu cymwysterau ac wedi gadael i\u2019r staff gysgodi ei gwaith gyda Mudiad er mwyn hybu eu datblygiad proffesiynol parhaus. Diolchwn i Menna am weithio\u2019n ddiflino i gefnogi ein clwb.\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9546\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/9-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/9-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/9-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/9-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/9.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dysgwr y Flwyddyn: Caroline Jasmine Williams, Gofal Plantos Prysur Childcare, Carmarthenshire\u200b<\/strong><\/p>\n<p>Dysgwr sydd wedi gweithio\u2019n \u200bgaled i gyflawni neu wneud \u200bcynnydd tuag at ennill \u200bcymhwyster gyda Clybiau Plant \u200bCymru Kids&#8217; Clubs. Gallai hyn fod wedi cynnwys \u200bcefnogi cymheiriaid, cyfrannu\u2019n \u200bdda mewn sesiynau, gwneud y \u200bgorau o\u2019r profiad dysgu, neu \u200boresgyn heriau ag angerdd a \u200bphenderfyniad. \u200b<\/p>\n<p>Rwyf wedi enwebu Jasmine gan ei bod wedi cael y cyfle yn flaenorol i gwblhau ei hyfforddiant Gwaith Chwarae yn ystod cyflogaeth flaenorol ond nid oedd yn gallu gwneud hynny am wahanol resymau. Hoffwn ddangos fy niolch iddi gan ei bod wedi dangos penderfyniad i gwblhau llyfrau gwaith yn ymwneud \u00e2\u2019i chwrs yn ogystal \u00e2 rhoi\u2019r theori ar waith. Mae Jasmine hefyd wedi rhoi ei hamser rhydd ei hun i gefnogi un arall o&#8217;n lleoliadau. Mae\u2019n amlwg hefyd bod y plant yn ei gofal yn mwynhau ei chwmni, o chwarae g\u00eam o ddyfalu pwy, i redeg o gwmpas y tu allan, maent yn hoff o\u2019i gwahodd i mewn i\u2019w chwarae.\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9548\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/4-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/4-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/4-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/4-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/4.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Hyrwyddwr Chwarae: Clwb Gogerddan, Ceredigion<\/strong>\u200b<\/p>\n<p>Clwb Gofal Plant Allysgol sydd\u200b wedi hyrwyddo hawl plant i\u00a0 chwarae ac sydd wedi \u200bymdrechu i ddarparu \u200bcyfleoedd chwarae o \u200bansawdd da i\u2019r plant yn eu \u200bgofal.\u200b<\/p>\n<p>Mae chwarae wrth galon popeth maen nhw&#8217;n ei wneud yng Nghlwb Gogerddan. Maent wedi datblygu eu Harweinydd Chwarae-gogy eu hunain yn ddiweddar. Staff yw asedau mwyaf gwerthfawr Gofal Plant Gogerddan ac maent yn rhoi sylw i ddiddordebau a sgiliau staff i ddatblygu sgiliau gyda&#8217;r plant. Maent wedi datblygu clwb garddio a sgiliau coginio, ac mae ganddynt Arweinwyr Ysgol Goedwig sy&#8217;n sicrhau bod plant yn cael pob cyfle i chwarae tu allan beth bynnag fo&#8217;r tywydd. Yn ddiweddar, defnyddiwyd Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Llywodraeth Cymru i ddatblygu man chwarae awyr-agored ar dir Ysgol Rhydypennau lle mae Clwb Gogerddan yn cael ei redeg. Mae hyn nid yn unig wedi bod mor fuddiol i&#8217;r Clw, mae&#8217;r Ysgol a Chylch Meithrin Rhydypennau hefyd yn gallu cael mynediad i&#8217;r gofod allanol. Uchafbwyntiau adroddiad AGC: Mae&#8217;r bobl sy&#8217;n rhedeg y lleoliad yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar. Maent yn darparu mannau gwych i blant chwarae a chymdeithasu \u00e2\u2019i gilydd a lle mae ganddynt ryddid i symud o gwmpas yn annibynnol ac yn ddiogel. Mae&#8217;r bobl sy&#8217;n rhedeg y lleoliad a&#8217;r staff yn paratoi&#8217;r mannau chwarae&#8217;n ofalus er mwyn galluogi&#8217;r plant i gael y profiadau gorau posibl.\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9550\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/7-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/7-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/7-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/7-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/7.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gweithiwr Chwarae\u2019r Flwyddyn: Leanne Stephens, Clwb Ol-Ysgol Two Tribes\/Two Tribes After School Club, Sir Fynwy\/Monmouthshire<\/strong>\u200b<\/p>\n<p>Gweithiwr Chwarae sy\u2019n \u200bymgorffori\u2019r gwyddorion \u200bGwaith Chwarae ac sydd \u200bwedi mynd yr ail filltir i roi \u200bgwasanaeth rhagorol i \u200bblant, rhieni\/gofalwyr a\u2019r \u200bgymuned leol.\u200b<\/p>\n<p>\u201cMae hi\u2019n aelod gwerthfawr iawn o\u2019r t\u00eem ac yn mynd gamau lawer ymhellach i sicrhau bod y plant yn y clwb yn hapus, yn ymgysylltu, yn ddifyr ac yn teimlo\u2019n ddiogel. Hi sydd wedi ein hysgogi i dderbyn ein Dyfarniad Arian yn yr Addewid Cymraeg! Mae hi\u2019n cefnogi\u2019r t\u00eem rheoli a gweddill y t\u00eem yn ein hymrwymiad parhaus i hybu ein hiaith Genedlaethol yn y clwb. Mae hi wedi datblygu ffolder Dysgu Cymraeg yn annibynnol lle gellir dod o hyd i eiriau\/ymadroddion allweddol i gefnogi\u2019r plant a\u2019r gweithwyr Chwarae. Mae\u2019n trefnu sesiynau a gemau hwyliog gyda\u2019r plant i hybu\u2019r Gymraeg trwy chwarae. Mae\u2019n haeddiannol iawn o\u2019r wobr hon a diolchwn iddi am ei hymroddiad, ei hymrwymiad a\u2019i chefnogaeth.\u201d\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9552\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/5-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/5-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/5-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/5-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/5.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus\u200b: Bridging the Gap, \u200bMerthyr Tudful\u200b<\/strong><\/p>\n<p>\u200bClwb Gofal Plant All-ysgol sy\u2019n \u200bymroi i annog a chefnogi ei staff i fynychu hyfforddiant a \u200bgweithdai i ategu at eu \u200bdatblygiad \u200bproffesiynol, er mwyn cefnogi\u2019r ddarpariaeth ofal plant o ansawdd a gynigir i\u2019r gymuned\u200b leol. \u200b<\/p>\n<p>Mae Bridging the Gap yn Glwb Ar \u00d4l Ysgol a Gwyliau cwbl gynhwysol ar gyfer plant 3-19 oed sydd ag anghenion ychwanegol. Ers cymryd yr awenau fel rheolwr y lleoliad, mae Lisa wedi gwneud ymdrech drawiadol i ddatblygu ei dysgu a\u2019i dealltwriaeth o\u2019r sector Chwarae wrth weithio tuag at ei chofrestriad gydag AGC. Er bod ganddi brofiad yn y maes, mae\u2019n awyddus i symud ymlaen a chadw ei gwybodaeth yn gyfredol. Mae Lisa wedi mynychu nifer o Glybiau Hwb ochr yn ochr \u00e2 gweithio ar ein Hasesiad Gofal Plant All-Ysgol (AGPA). Gwiriad Diogelu Iechyd a Phecyn Cymorth Gwrth-hiliaeth. Mae ei hymdrech wedi bod yn esiampl wych i staff, wrth eu hannog nhw hefyd i fynychu hyfforddiant DPP.\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9554\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/6-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/6-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/6-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/6-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/6.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Hyrwyddo Amrywedd Cadarnhaol\u200b: TEMPS Out of School Club, Wrexham<\/strong>\u200b<\/p>\n<p>Clwb All-Ysgol sydd wedi ffocysu ar greu diwylliant cyfoethog lle y gall gweithwyr, plant a theuluoedd ffynnu a dathlu eu hamrywiaethau a\u2019u gwahaniaethau mewn ethos cynhwysol.\u00a0 \u200b<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bleser gennyf enwebu TEMPS ar gyfer y wobr hon i gydnabod eu hymrwymiad eithriadol i amrywiaeth a chynhwysiant. Mae&#8217;r sefydliad wedi cyflogi gwraig o&#8217;r Wcr\u00e1in, gan roi cymorth amhrisiadwy iddi wrth iddi ymgartrefu yn y gymuned leol. Mae Ymddiriedolwyr a Staff TEMPS wedi mynd gam ymhellach i&#8217;w helpu i ddod o hyd i lety lleol iddi hi a&#8217;i dau blentyn. Maen nhw hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu ei chartref drwy gyfrannu eitemau hanfodol, gan sicrhau ei bod hi a\u2019i theulu\u2019n teimlo bod croeso a chefnogaeth iddi. Gan gydnabod ei hangen am ddatblygiad sgiliau iaith, ac yn unol \u00e2 gofynion y Llywodraeth am ei fisa gweithio a chaniat\u00e2d i aros yn y DU, mae\u2019n mynychu gwersi Saesneg yn y Coleg lleol ac mae aelod o staff y Clwb yn rhoi cymorth ymarferol iddi drwy ofalu am ei phlant. Er mwyn ei chefnogi ymhellach, mae\u2019r pwyllgor wedi trefnu lle am ddim i un o\u2019i phlant yn y clwb, gan eu galluogi i elwa ar barhad gofal a mwynhau amgylchedd diogel, cynhwysol ochr yn ochr \u00e2\u2019u cyfoedion. Mae\u2019r agwedd feddylgar a chydweithredol hon yn dangos ymrwymiad y clwb i feithrin awyrgylch cynhwysol, cefnogol i bob teulu, waeth beth fo\u2019u cefndir ac mae\u2019n enghraifft wych o sut y gall sefydliad sy\u2019n canolbwyntio ar y gymuned wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau unigolion a theuluoedd, gan greu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9556\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/2-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/2-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/2-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/2-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/2.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Hyrwyddwyr Cynhwysiant\u200b: Dylan\u2019s Den, Rhondda Cynon Taf<\/strong>\u200b<\/p>\n<p>Clwb Gofal Plant Allysgol sy\u2019n \u200bgweithio\u2019n galed i roi darpariaeth \u200bgynhwysol ac o ansawdd, ac i gefnogi hygyrchedd i\u2019r holl \u200bblant, staff a theuluoedd. \u200b<\/p>\n<p>Mae Dylan\u2019s Den wedi mynd gamau lawer ymhellach i helpu plant o bob cefndir. Mae&#8217;r plant yn dysgu am wahanol ddiwylliannau, gwahanol alluoedd plant, a sut i gefnogi ei gilydd. Mae&#8217;r holl staff wedi&#8217;u hyfforddi mewn ADY, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chyfle cyfartal. Mae Dylan\u2019s Den yn falch o\u2019n staff sy\u2019n gweithio\u2019n hynod galed i wneud Dylan\u2019s Den yn ddarpariaeth gwbl gynhwysol o safon.\u200b<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9558\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/3-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/3-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/3-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/3-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/3.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Clwb Allysgol y Flwyddyn\u200b: Clwb Gogerddan, Ceredigion\u200b<\/strong><\/p>\n<p>Lleoliad sy\u2019n ymgorffori\u2019r \u200bEgwyddorion Gwaith Chwarae ac sy\u2019n enghraifft ragorol o fudd chwarae a gofal plant o ansawdd i blant, \u200bteuluoedd a chymunedau. \u200b<\/p>\n<p>Mae Clwb Gogerddan yn nodi mai ei adnodd mwyaf gwerthfawr yw\u2019r staff. Mae\u2019r Rheolwr yn sicrhau bod pob aelod o\u2019r t\u00eem yn cael ei werthfawrogi o fewn y gwasanaeth. C\u00e2nt gyfle i ddathlu a rhannu cyflawniadau gyda\u2019i gilydd. Mae ganddynt ddigwyddiadau i gefnogi lles y staff o Yoga i wibdeithiau, codi arian ac ati. Cynhelir gwasanaeth gwobrau staff blynyddol lle gofynnir i rieni roi adborth ar y digwyddiad. Amlygodd adroddiad arolygu diwethaf AGC ar gyfer Clwb Gogerddan sut mae plant yn mwynhau gwneud penderfyniadau wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae naws hapus iawn i bob rhan o\u2019r lleoliad, ac mae\u2019n amlwg bod y plant yn teimlo\u2019n ddiogel a bodlon. Dywedodd y staff fod y lleoliad yn lle hapus iawn i weithio ynddo a\u2019u bod yn cydweithio\u2019n dda fel t\u00eem. Dywedodd staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a\u2019u bod yn cael eu cefnogi\u2019n dda gan y t\u00eem rheoli, sy\u2019n eu galluogi i gyflawni eu rolau a\u2019u cyfrifoldebau yn effeithiol ac yn hyderus. Disgrifiodd staff eu harweinwyr fel rhai hawdd siarad \u00e2 nhw, yn gefnogol ac yn garedig, a gwelwyd tystiolaeth bellach o hyn mewn adborth ysgrifenedig a rannwyd yn ystod eu dathliad blynyddol o wobrwyo staff. Mae sicrhau lles y staff a\u2019r plant sy\u2019n mynychu yn allweddol i lwyddiant y lleoliad hwn wrth iddynt ymdrechu i sicrhau\u2019r gwasanaeth gorau posibl i bawb dan sylw.\u201d\u200b<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-9560\" src=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/10-300x251.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"251\" srcset=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/10-300x251.png 300w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/10-768x644.png 768w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/10-600x503.png 600w, https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/10.png 940w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Rhestr o\u2019r Gweithwyr Chwarae a raddiodd yn 2024 (Ionawr \u2013 Rhagfyr) a\u2019r Cyflawnwyr Dysgu Cymraeg<\/strong><\/p>\n<p>Hoffem hefyd ddathlu ein Gweithwyr Chwarae a raddiodd yn 2024 (Ionawr \u2013 Rhagfyr) a\u2019n cyflawnwyr Dysgu Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn fe welsom nifer rhyfeddol o Weithwyr chwarae\u2019n ymgysylltu \u00e2\u2019u hyfforddiant gyda ni, ac o ganlyniad yn ffynnu yn eu rolau, wrth i\u2019r dysgwyr wneud newidiadau ystyrlon i\u2019w harferion er budd plant ar hyd a lled Cymru.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Playwork Graduates Scroll 25\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/KDGqidD9r3c?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Welsh Scroll 25\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/xeDdzcEt61o?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Dyw hi ddim yn rhy hwyr i wylio\u2019r Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol!<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"color: #0000ff;\"><strong><a style=\"color: #0000ff;\" href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=wo33pYw8ajw&amp;t=3457s\">Cliciwch ar y ddolen\u00a0 yma i wylio ar Youtube yn awr<\/a><\/strong><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids&#8217; Clubs ein 4ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar Fawrth 12fed 2025, gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":36,"featured_media":9562,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[24,23,26,25],"tags":[],"class_list":["post-9541","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-aelodau","category-clybiau","category-gweithwyrchwarae","category-rhieni"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 - Clybiau Plant Cymru (CY)<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 - Clybiau Plant Cymru (CY)\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids&#8217; Clubs ein 4ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar Fawrth 12fed 2025, gan [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clybiau Plant Cymru (CY)\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-03-14T10:43:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"628\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"kingw\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"kingw\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/\",\"url\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/\",\"name\":\"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 - Clybiau Plant Cymru (CY)\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr\",\"datePublished\":\"2025-03-14T10:43:37+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/f3f15a3ef12a85ccf7e05488b6b08520\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr\",\"contentUrl\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr\",\"width\":1200,\"height\":628},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/\",\"name\":\"Clybiau Plant Cymru (CY)\",\"description\":\"Just another Clybiau Plant Cymru Sites site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/f3f15a3ef12a85ccf7e05488b6b08520\",\"name\":\"kingw\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b424abed10e9793ee512aea5291203bbe5cd624ca892ee676d34531dfb5d8be1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b424abed10e9793ee512aea5291203bbe5cd624ca892ee676d34531dfb5d8be1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"kingw\"},\"url\":\"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/author\/kingw\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 - Clybiau Plant Cymru (CY)","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 - Clybiau Plant Cymru (CY)","og_description":"Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids&#8217; Clubs ein 4ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar Fawrth 12fed 2025, gan [&hellip;]","og_url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/","og_site_name":"Clybiau Plant Cymru (CY)","article_published_time":"2025-03-14T10:43:37+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":628,"url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr","type":"image\/png"}],"author":"kingw","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"kingw","Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/","url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/","name":"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025 - Clybiau Plant Cymru (CY)","isPartOf":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr","datePublished":"2025-03-14T10:43:37+00:00","author":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/f3f15a3ef12a85ccf7e05488b6b08520"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#primaryimage","url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr","contentUrl":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/03\/Out-of-School-Childcare-Conference-Awards-Ceremony-2025-3.png?wsr","width":1200,"height":628},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/celebrating-the-winners-of-the-out-of-school-childcare-awards-2025\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/","name":"Clybiau Plant Cymru (CY)","description":"Just another Clybiau Plant Cymru Sites site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/f3f15a3ef12a85ccf7e05488b6b08520","name":"kingw","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b424abed10e9793ee512aea5291203bbe5cd624ca892ee676d34531dfb5d8be1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b424abed10e9793ee512aea5291203bbe5cd624ca892ee676d34531dfb5d8be1?s=96&d=mm&r=g","caption":"kingw"},"url":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/author\/kingw\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9541","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/36"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9541"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9541\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9563,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9541\/revisions\/9563"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9562"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9541"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9541"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/clybiauplantcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9541"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}