03.01.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Mae Gwylfa-Adar Fawr Ysgolion (y Big Schools’ Birdwatch) yn ôl ar gyfer 2025, yn fwy a gyda hyd yn oed mwy o adnoddau nag o’r blaen! Ymunwch â miloedd o ysgolion eraill i ddarganfod pa adar sy’n ymweld â thir eich ysgol. Gyda’n gilydd, gadewch i ni wneud iddo gyfrif!
Mae Gwylfa-Adar Fawr Ysgolion yn arolwg adar syml i ddisgyblion gymryd rhan ynddo a’i fwynhau gyda’i gilydd. Mae’r gweithgaredd hwn yn ymwneud â chyfrif nifer yr adar ar dir eich ysgol. Dim ond awr mae’n ei gymryd, felly mae un wers neu amser cinio yn ddelfrydol. Mae’r canlyniadau hefyd yn cyfrannu at ‘Big Garden Birdwatch’ – arolwg bywyd gwyllt mwyaf y byd.
Pryd mae Gwylfa-Adar Ysgolion?
Cynhelir Gwylfa-Adar Ysgolion rhwng 8 Ionawr a 19 Chwefror 2025 ac mae’n weithgaredd addysgol sy’n dod â’ch dosbarth yn agosach at natur. Mae’n cymryd awr yn unig ac mae’n gweithio i bob oed a gallu.
Sut i gymryd rhan yng Ngwylfa-Adar yr Ysgolion?
Bob blwyddyn, mae addysgwyr o bob cornel o’r DU yn cymryd rhan yn eu dosbarthiadau. Mae digon o hyblygrwydd i’w redeg gydag unrhyw grŵp oedran o blant ac mae gan y gymdeithas frenhinol er gwarchod adar – yr RSPB, adnoddau i helpu. Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan, peidiwch ag edrych ymhellach, rydym wedi ychwanegu ychydig o fanylion oddi ar dudalen Gwylfa-Adar Ysgolion yr RSPB isod, ynghyd â dolen i Dudalen Gofrestru’r RSPB i’w gwneud hi’n haws nag erioed i ddechrau arni.
- Cofrestrwch heddiw!
Cofrestrwch heddiw a byddwn yn anfon pecyn gwych atoch gyda phopeth sydd ei angen arnoch chi a’ch dosbarth i gymryd rhan yng Ngwylfa-Adar yr Ysgolion (brysiwch, gan mai nifer cyfyngedig sydd gennym).
Mae ein holl adnoddau’n cefnogi dysgu’r cwricwlwm, gan gynnwys am y tro cyntaf darparu cofnodion hanesyddol Gwylfa Adar yr Ysgolion i chi, er mwyn i chi allu cymharu’r hyn a welwch. Mae’r holl adnoddau ar gael yn ddwyieithog i ysgolion yng Nghymru.
- Dechreuwch gyfrif
Ewch ati i gyfrif ar dir eich ysgol unrhyw bryd rhwng 8 Ionawr a 19 Chwefror 2025. Mae eich pecyn rhad ac am ddim yn cynnwys adnoddau adnabod defnyddiol a thaflenni arolwg defnyddiol. Beth am wneud Gwylfa-Adar yr Ysgol yn gam cyntaf y byddwch yn ei gymryd i ddarganfod beth yw natur ar garreg drws eich ysgol? Cwblhewch bum her arall a gallwch ennill eich gwobr Sialens Wyllt Efydd.
- Anfonwch eich canlyniadau
Anfonwch eich canlyniadau ar-lein. Mae’n hawdd gwneud gyda’ch dosbarth yn rhyngweithiol ar y bwrdd gwyn. Rydyn ni wir eisiau gwybod beth rydych chi’n ei weld, hyd yn oed os na welwch chi ddim byd o gwbl. Y diwrnod olaf ar gyfer anfon eich canlyniadau atom yw Chwefror 19.
Mwy o Heriau Gwyllt yn aros.
Os oedd eich dosbarth chi wrth eu bodd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Gwylfa-Adar yr Ysgol y flwyddyn flaenorol a’ch bod yn awyddus i gymryd rhan mewn mwy o heriau bywyd gwyllt, mae’r RSPB wedi llunio Gwobr Her Bywyd Gwyllt ac mae Gwylfa-Adar yr Ysgolion yn cyfrif fel un gweithgaredd tuag at hyn.
Ysbrydolwch eich disgyblion i ddysgu trwy fyd natur trwy ddewis o blith mwy nag 20 o weithgareddau eraill. Ticiwch bump arall a byddwch yn ennill eich Gwobr Efydd, yna gweithio’ch ffordd i fyny at aur. Cliciwch ‘Cymryd Rhan’ i wybod sut y gallwch chi ddechrau eich dosbarth.