Clybiau
Dangosfwrdd Clybiau
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi bod yn cefnogi’r sector Gofal Plant Allysgol yng Nghymru ers 2001. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi mireinio ein gwybodaeth a’n sgiliau wrth gefnogi clybiau ac wedi datblygu nifer enfawr o adnoddau o ansawdd da, yn benodol ar gyfer y sector. P’un a ydych yn glwb sy’n bodoli eisoes sy’n chwilio am adnoddau, hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio neu gefnogaeth, neu â diddordeb mewn sefydlu eich clwb eich hun, fe welwch lawer o wybodaeth yma. Peidiwch ag anghofio bod ein Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant a’n Swyddogion Hyfforddi gwybodus a phrofiadol hefyd ar gael i’ch cefnogi trwy’ch swyddfa leol!
Gall aelodau gael mynediad at ein holl bolisïau/gweithdrefnau templedi, canllawiau, gweithgareddau ac adnoddau heb unrhyw gost ychwanegol – ymunwch heddiw!