Rhieni
Dangosfwrdd Rhieni
Ni yw’r gyfundrefn Genedlaethol sy’n cefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol drwy Gymru gyfan. Er bod pob clwb yn fusnes ynddo’i hun, gallwn ni gefnogi trwy gynnig adnoddau, gwybodaeth, arweiniad a hyfforddiant i helpu i sicrhau bod plant yn elwa o ddarpariaeth chwarae o ansawdd da. Bydd defnyddio man gofal plant sydd wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn dwyn sawl mantais yn ei sgil i chi a’ch plentyn; gallwch ddarllen mwy yma am y dewisiadau gofal plant sydd ar gael i chi.
Yn yr adran hon fe gewch hyd i fwy o wybodaeth am Glybiau Gofal Plant Allysgol, yn ogystal â gweithgareddau y gallwch eu defnyddio yn eich cartrefi eich hunain i gefnogi hawl plant i chwarae (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Erthygl 31).