03.01.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cronfa Elusennol Y Brenin Siarl III
Ers dros 40 mlynedd, mae’r Gronfa wedi cefnogi gwaith elusennol Ei Fawrhydi. Mae’r Gronfa ar genhadaeth i drawsnewid bywydau ac adeiladu cymunedau cynaliadwy trwy roi grantiau, buddsoddiad cymdeithasol a deori mentrau a phrosiectau.
Mae’r Gronfa wedi buddsoddi mwy na £100 miliwn mewn achosion elusennol yn y DU a thramor. Rydym yn dyfarnu grantiau i ystod eang o achosion da ar draws ein themâu ariannu: Yr Amgylchedd, Cefn Gwlad, Cynhwysiant Cymdeithasol, Iechyd a Lles, Treftadaeth a Chadwraeth ac Addysg.
Trwy gydol ein holl waith rydym yn ymdrechu i gael yr effaith elusennol fwyaf posibl, gan ddefnyddio ein cyllid a’n pŵer cynnull i drosoli cefnogaeth bellach gan eraill. Ac i gyflawni hyn yn dda, rydym yn sicrhau bod ein llywodraethu a’n rheolaeth yn ateb y diben ac yn unol ag arfer gorau.
Gwnewch gais yma – https://www.kccf.org.uk/small-grants/
Cronfa Bags of Help Tesco
Nod y cyllid yma yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – oherwydd lle mae ein cymunedau’n ffynnu, mae ein busnes a’n cydweithwyr yn ffynnu hefyd. Mae Tesco Stronger Starts yn cael ei reoli gan Groundwork sy’n gweithio gyda Greenspace Scotland i gefnogi ymgeiswyr yn yr Alban.
Sut mae Tesco Stronger Starts yn gweithio?
Mae Tesco Stronger Starts yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol wneud cais am grant o hyd at £1,500. Bob tri mis, mae tri achos da lleol yn cael eu dewis i fod yn y bleidlais cwsmer tocyn-glas yn siopau Tesco ledled y DU.
Mae ceisiadau’n agored i bob achos da lleol, ond rydym ar hyn o bryd yn blaenoriaethu helpu prosiectau sy’n cefnogi diogelwch bwyd ac iechyd plant ac achosion da a enwebir gan siopau lleol.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn a chroesewir syniadau eraill am brosiectau hefyd.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Clybiau brecwast ysgol
- Clybiau gwyliau
- Mannau chwarae
- Banciau bwyd
- Gwasanaethau cwnsela a chymorth i blant
- Offer neu wasanaethau anstatudol ar gyfer meithrinfeydd neu ysgolion e.e. ysgolion coedwig, llyfrau llyfrgell
- Offer ar gyfer Grwpiau Brownis, Geidiaid neu Sgowtiaid e.e. offer gwersylla, bathodynnau
- Gwasanaethau neu offer i gefnogi iechyd plant a phobl ifanc
- Offer/cit ar gyfer timau chwaraeon ieuenctid
https://tescostrongerstarts.org.uk/apply-for-a-grant/
Sefydliad Morrisons
Mae Sefydliad Morrisons yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i elusennau cofrestredig sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Gellir defnyddio’r grantiau ar wariant cyfalaf (prynu, cynnal a chadw neu wella asedau) neu gyflawni prosiectau. Ni ellir defnyddio’r grantiau tuag at gostau craidd megis cyflogau neu wasanaethau parhaus.
I fod yn gymwys, rhaid i sefydliadau fod wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ers dros flwyddyn.
Mae Sefydliad Morrisons yn blaenoriaethu ceisiadau gan elusennau bach sydd ag incwm o lai na £1 miliwn.
https://www.morrisonsfoundation.com/grant-funding-request/