13.10.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Mae Clybiau Brecwast Greggs yn un o raglenni blaenllaw’r sefydliad, The Greggs Foundation, ac yn un o’r ffyrdd allweddol y gall gefnogi plant a theuluoedd. Mae rhwydwaith o’r Clybiau Brecwast hyn yn cael eu cynnal ar draws Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. O’r clwb cyntaf yn 1999, mae Greggs bellach wedi tyfu’r rhwydwaith i gynnal dros 840 o glybiau ar hyd a lled y wlad, gan helpu i fwydo dros 52,000 o blant yn ddyddiol. Cewch fwy o wybodaeth yma.