26.08.2022
Canmlwyddiant Tesco
Mae’r prosiect yma wedi ei anelu at helpu plant, pobl ifanc a Gweithwyr Chwarae i gysylltu â natur a thyfu/fforio bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy. Y canlyniad oed cynhyrchu ein pecyn adnodd Tyfu’ch Gwledd eich Hun, yn cynnwys 46 gweithgaredd tyfu, fforio, coginio a dathlu sydd yn awr ar gael i dros 1500 o glybiau) ar draws Cymru gyfan.
Fe wnaethom sefydlu partneriaethau rhagorol ag arbenigwyr ar dyfu – Terry Walton, garddwr organig adnabyddus, Adele Nozedar, fforiwr sydd wedi cyhoeddi llyfrau, a 9 lleoliad peilot Allysgol – i gefnogi datblygiad ein cardiau adnodd, fideos ac erthyglau yn ein newyddlen chwarterol.
Fe wnaethom gyflenwi 23 o weithdai i 343 o blant a Gweithwyr Chwarae a hefyd llyfrau ar fforio ac adnoddau garddio, a gwnaethom rannu cyfres o 8 fideo ar-lein a chardiau gweithgaredd, gan gysylltu’r rhain yn aml â dyddiadau digwyddiadau cenedlaethol/diwrnodau ymwybyddiaeth megis Wythnos Arddio Genedlaethol Plant.
Fe wnaethom hefyd hyrwyddo’rpecyn drwy:
- Ddigwyddiad Fforio gyda Phlant yn Aberhonddu;
- Fforio Gyda’n Gilydd: Digwyddiad byw ar Face book yn gwneud cordial aeron-ysgaw sbeislyd yn hwb i systemau imiwnedd;
- Digwyddiad rhwydwaith Crefftau Nadolig a Natur i lansio’r pecyn ‘Tyfu’ch Gwledd eich Hun’:
- Blodau’r Haul Trawiadol – rhoesom i 850 o leoliadau hadau Blodau’r Haul a Basil er mwyn iddynt ddefnyddio’r pecyn yn ei lawnder a dechrau tyfu gyda’n gilydd ar hyd a lled Cymru, gan ymestyn llinell amser a chyrhaeddiad daearyddol y prosiect.
Diweddarwyd y pecyn trwy gyfrwng gweithgareddau ychwanegol ym mis Mawrth, ac rydym yn dal i hyrwyddo’r pecyn drwy’r tymhorau yn Y Bont a’r cyfryngau cymdeithasol.
“Ambell i syniad hyfryd! Yn edrych ymlaen at weld beth a allwn ei wneud gyda’r pecynnau, a sut y byddan nhw’n ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o fforio/garddio”
“Mae’r plant wedi bod wrth eu boddau’n mynd i’r awyr agored ac mae wedi rhoi i ni gymaint o ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau.”
“Gweithdai hollol wych, diolch Clybiau. Hefyd diolch enfawr i Adele, a fydd, yn bendant, yn gwneud y sêr, y cardiau a’r jariau dros y cwpwl o wythnosau nesaf!”
“Mae’r plant wedi dwlu ar bob munud. Mae nifer ohonyn nhw wedi bod llawer gwell o ran rhoi cynnig ar lysiau adeg byrbryd, ac mae ganddyn nhw gymaint o falchder yn y pethau y maen nhw wedi’u tyfu!”