26.08.2022
Cronfa Gymunedol Leol y Co-op
Mae Cronfa Gymunedol Leol y Co-op yn helpu i gefnogi prosiectau lleol sy’n agos at galon aelodau’r Co-op. Ers ei lansio yn 2017 mae aelodau’r Co-op wedi codi £39 miliwn o bunnau i dros 12,000 o achosion lleol.
Ein prosiect gwreiddiol oedd cyflenwi 8 gweithdy mewn 4 Clwb Gofal Plant Allysgol yng Nghonwy er mwyn mynd i’r afael â gordewdra mewn plentyndod; roedd yn rhaid addasu hyn o ganlyniad i Covid-19.
Derbyniodd Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghonwy rychwant o adnoddau i gefnogi plant i fod yn iach ac yn egnïol. Roedd yr adnoddau hyn yn cynnwys cardiau gweithgaredd, cyflenwadau ar gyfer adeiladu deniau ac arweiniad ar gyflwyno system ‘Fydïo’ neu ‘O dan arweiniad Bydi’, lle bydd plant ychydig yn hŷn yn helpu plant iau i ymgysylltu â gwahanol weithgareddau, drwy roi cefnogaeth, arweiniad ac anogaeth iddynt wneud sawl math o wahanol dasgau. Mae bydïo’n gwella cyfranogaeth plant, boed yn fydis neu’n blant iau.