26.08.2022
Sefydliad Moondance
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn cydweithio o’r newydd gyda Sefydliad Moondance i gefnogi ein sector i oroesi a ffynnu yng Nghymru wedi’r Pandemig. Drwy’r arian a dderbyniwyd o sefydliad Moondance, mai modd i ni yn awr gynnig grantiau i gefnogi/cynnal clybiau presennol ac i ddatblygu clybiau a lleoedd newydd, wedi eu teilwra’n benodol ar gyfer lleoliadau Gofal Plant Allysgol ar hyd a lled Cymru.
Ar hyn o bryd mae gennym nifer cyfyngedig o grantiau gwerth £1,500 yr un, ar gael i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau, a £3,500 i gynorthwyo clybiau newydd yn eu datblygiad.
Dyfernir grantiau ar sail gylchol hyd nes bo’r ariannu wedi ei ddyrannu. Am fwy o fanylion cysylltwch â membership@clybiauplantcymru.org.
Canllawiau:
Caiff y ceisiadau eu barnu yn ôl amcanion y grant ac yn erbyn ceisiadau eraill.
£1,500 fydd swm y grant mwyaf a ddyfernir.
Ni ellir dyfarnu ariannu yn adolygol.
Mae’r grant hwn ar gyfer cynnal darpariaethau gofal-plant o ansawdd da. Y mae’n amod nad ydyw i’w ddefnyddio i gynnal elw.
Rhaid bod yr ymgeiswyr heb dderbyn ariannu o sefydliad Moondance o fewn y 12 mis diwethaf.
Blaenoriaethir clybiau sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru neu’r rhai sy’n cofrestru o fewn 12 mis.
Rhaid i’r ymgeiswyr gwblhau asesiad Gofal Plant Allysgol ac ymrwymo i gamau y cytunwyd arnynt i gefnogi datblygiad a chynaliadwyedd yn y dyfodol.
Grant Lleoedd a Gynorthwyir i Glybiau Gofal Plant Allysgol
Trwy gefnogaeth gan The Moondance Foundation, mae cyfle wedi codi i gynnig grantiau Lleoedd Gofal Plant a Ariennir i Glybiau Gofal Plant Allysgol.
Mae cyllid bellach ar gael ar gyfer 04/09/2023 hyd at 22/12/2023 i roi mynediad i blant na fyddent fel arfer yn gallu mynychu darpariaeth ac a fyddai’n elwa o gyfleoedd chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol, gan felly gefnogi ymgysylltiad cymdeithasol a lles meddyliol.
Dylai Clybiau Gofal Plant Allysgol sydd wedi’u cofrestru gydg AGC, sy’n aelodau o Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ac â diddordeb mewn cynnig lleoedd wedi’u hariannu, gysylltu â’u Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant rhanbarthol.