Straeon o Lwyddiant

Mae clybiau wrth galon llawer o gymunedau, a hebddynt ni fyddai rhieni’n gallu gweithio, gan eu bod yn cefnogi cymunedau, trechu tlodi ac anghydraddoldebau ac yn lleihau tlodi plant. Mae clybiau’n diwallu anghenion llesiant plant a’u hawl i chwarae, gan eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cynrychioli’r sector yn strategol, yn darparu cymorth busnes sector-benodol i feithrin ansawdd, cynaliadwyedd a llywodraethiad; maent yn trosoli cymorth ariannol ac yn darparu cymwysterau Gwaith Chwarae a hyfforddiant arall i roi’r buddion gorau posibl er llesiant plant mewn clybiau.

Cymerwch gipolwg ar rai o’n llwyddiannau isod.

 

Astudiaethau Achos Pellach: Cymorth busnes gofal plant