05.05.2023
Marchnata
Marchnata yw’r broses o ennyn diddordeb pobl yn eich busnes. Mae ymchwil i’r farchnad yn sicrhau bod eich gwasanaeth yn ateb anghenion eich cymuned leol yn effeithiol, ac y mae’n bwysig adolygu ac adlewyrchu ar hyn, nid yn unig pan fyddwch yn dechrau o’r newydd, ond ar adegau rheolaidd gan y gall yr anghenion yma newid, yn enwedig yn wyneb yr amgylchiadau economaidd diweddar.
Mae marchnata hefyd ynghylch hysbysebu, ac yma hefyd, nid ymarferiad dechreuol mo hwn wrth ichi roi cychwyn arni; dylai fod yn arfer barhaus sydd wedi ei hymgorffori i’ch busnes ar sail barhaol. Gall fod yn syndod gwybod faint o rieni nad ydynt yn ymwybodol o’r Gofal Plant sydd ar gael, hyd yn oed pan ei fod ei leoli ar safle’r ysgol! Y mae hefyd am hyrwyddo ansawdd yr hyn yr ydych yn ei wneud – sicrhau rhieni/gofalwyr fel y byddant yn teimlo’n fwy abl i adael eu plant yn eich gofal.
I’ch cefnogi i gynllunio a marchnata eich Clwb Gofal Plant Allysgol yn effeithiol, rydym wedi datblygu adnoddau lu i Glybiau sy’n aelodau.
Pam fod marchnata’n bwysig? Mae gwybodaeth ddefnyddiol i’w gweld yn ein harweiniad yma.
Mae llunio a gweithredu strategaeth farchnata yn rhan bwysig o unrhyw fusnes llwyddiannus. Gwelwch sut i ddatblygu strategaeth farchnata yma.
Wrth farchnata eich Lleoliad, mae’n bwysig sefydlu eich Pwynt Gwerthu Unigryw. Dylech hefyd gadw mewn cof fanteision bod â delwedd broffesiynol, er enghraifft o y defnydd o gyfeiriad ebost a systemau ffôn.
Datblygodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs dempled yn ddiweddar i gynorthwyo Clybiau Gofal Plant Allysgol a oedd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i farchnata eu darpariaeth, yn achos Clybiau Gwyliau a’r rhai nad oeddent yn cynnnig Darpariaeth Wyliau. Rydym hefyd wedi llunio taflen ar gynlluniau Cefnogaeth Ariannol er mwyn rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am y cymorth ariannol a allai fod ar gael iddynt.
Rydym wedi datblygu taflen ddefnyddiol i adlewyrchu ar ffyrdd y gallech farchnata eich Clwb, a ffordd arall dda iawn o farchnata eich gwasanaethau (yn ogystal â gwella profiad defnyddwyr presennol y gwasanaeth) yw drwy greu newyddlen. Mae gennym dempled dwyieithog yma y carech, efallai, ei ddefnyddio, ynghyd â rhai cynghorion campus ar ysgrifennu newyddlenni.
A’r cynnydd yn y defnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’r amryfal ffyrdd o farchnata busnesau ar-lein, mae gennym hefyd weminar, wedi ei recordio ymlaen llaw, i fod yn arweiniad o ran marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio Facebook a Twitter fel arfau marchnata, ynghyd â thoreth o wybodaeth ddefnyddiol.
Os hoffech gopi o’r weminar hon, anfonwch ebost i webinar@clybiauplantcymru.org
Rydym yn ogystal wedi datblygu llu o adnoddau i gefnogi prosesau Ariannol eich busnes – mae’r rhain ar gael ar ardal aelodau ein haelodau.
I gael cefnogaeth bwrpasol bellach ar sut i roi strategaeth farchnata ar waith ar gyfer eich busnes, mae croeso i chi gysylltu â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant lleol neu’ch Swyddfa Ranbarthol
Swyddfa Caerdydd info@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Bae Colwyn info-nw@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Cross Hands info-ww@clybiauplantcymru.org