Arweinydd Chwarae – Simply Out of School, Gwndy, Sir Fynwy

Dyddiad cau:

Oriau: 15 yr wythnos, Dydd Llun – Dydd Gwener, yn ystod y tymor, ar ôl oriau ysgol. 

Cyflog: £13 – £13.50 yr awr 

Cymwysterau / profiad gofynnol:  

  • Mae Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae neu Gofal, Dysg a Datblygiad Plant (CCLD) yn fantais. Cyfleoedd i ddatblygu cymwysterau ymhellach o fewn y rôl.  
  • Profiad Gwaith Chwarae/Gofal Plant gyda phlant 3-11 oed yn hanfodol 
  • Mae tystysgrif Cymorth Cyntaf yn fantais 
  • Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd yn fantais 
  • Mae Tystysgrif Diogelu yn fantais 
  • Mae gwybodaeth AGC o fantais ond gellir rhoi hyfforddiant os oes angen. 
  • Bydd angen 2 eirda erbyn adeg   cyfweldau. 
  • Bydd angen CV llawn (heb fylchau amser) cyn y cyfweliad 

 

Disgrifiad o’r dyletswyddau:  

Creu a rheoli lleoliad clwb ôl-ysgol croesawgar, hwyliog a chyffrous gan ddilyn rheoliadau AGC. 

Rheoli rhediad y clwb ôl-ysgol o ddydd i ddydd. Cydgysylltu â rheolwyr a’r ysgol yn ddyddiol, gan greu perthynas waith gadarnhaol.  

Delio â chwestiynau/cwynion yn broffesiynol. Cynorthwyo gyda rhedeg y Clwb ar ôl Ysgol o ddydd i ddydd, gan gynnwys gosod pethau yn eu lle a’u clirio i ffwrdd,, paratoi byrbrydau a diodydd yn unol â Pholisi Bwyta’n Iach y clwb, goruchwylio cyfleoedd chwarae gyda’r plant. Rheoli cynllunio a pharatoi gweithgareddau crefft a chynorthwyo plant gyda’r rhain. Iechyd a diogelwch cyffredinol – sicrhau bod yr amgylchedd chwarae yn ddiogel i’r plant ei fwynhau 

Sut i ymgeisio: Fe’ch croesewir i gyflwyno’ch cais ymaadmin@simplyoutofschool.co.uk. 

Lleoliad y swydd: Ysgol Gynradd Gwndy NP26 3LZ 

Dyddiad cau: ddim yn berthnasol 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board