Disgrifiad
Mae hwn yn wych i unrhyw un sydd eisoes â Lefel 3 mewn Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid neu gefnogi Dysgu. Mae’n adeiladu ar y wybodaeth yr ydych eisoes wedi ei sefydlu ac yn eich helpu i ddeall egwyddorion, damcaniaethau a dulliau Gwaith Chwarae.
Bydd y cwrs yma’n eich cymhwyso ar gyfer Gwaith Chwarae Lefel 3 ym mhob lleoliad.
08/04, 15/04, 06/05, 13/05, 20/05, 27/05, 03/06, 10/06, 17/06
Ar-lein 6.30pm-8.30pm
Cymhwysedd:
Rhaid bod â Thystysgrif Lefel 3 o fewn y maes gofal plant.
Bod â’r hawl i weithio a byw yng Nghymru
Bod yn gyflogedig mewn lleoliad gofal plant neu chwarae.
Dros 18 mlwydd oed
Ar gyflwyno’r archeb hon – byddwch yn derbyn e-bost cychwynnol gan ein Gweinyddwyr Hyfforddi, yn cynnwys manylion y broses ymrestru. Nodwch os gwelwch yn dda na fydd eich lle ar y cwrs hwn yn cael ei gadw nac wedi ei warantu hyd nes y derbyniwn yr holl waith papur ymrestru yn ôl gennych chi, felly ewch ati’n ddi-oed i sicrhau eich lle!