15/04/2025 |
Ymarferydd Gofal Plant ar gyfer Clwb All- Ysgol, Newport Flying Start, Casnewydd
Dyddiad cau: 25/04/2025
Oriau: 17.5 awr pob wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod amser tymor, ar ôl oriau ysgol.
Cyflog: Gradd 3, pwyntiau 3 i 5 ar y golofn gyflog. £24,790 – £25,183 (Pro rata)
Cymwysterau / Profiad Gofynnol:
Bydd angen i’r deiliad swydd cael cymhwyster Gwaith Chwarae, fel nodwyd yn y Fframwaith Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gall hyn fod yn gymhwyster lefel 3 (fel GDDP, CCPLD, NVQ neu debyg) yn unol â’r Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru.
Disgrifiad o ddyletswyddau: Rydym yn awyddus i benodi ymgeisydd sydd yn:
- Ymarferydd brwdfrydig a hunan-gymhellol
- Ddibynadwy a chydwybodol
- Gweithiwr tîm rhagorol sy’n barod i ymrwymo’n llawn i’r byd Clwb All-Ysgol
- Ymarferydd gofalgar sy’n rhoi lles y plant wrth wraidd ei arferion.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau o’r tîm, plant, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Gallu nodi anghenion hyfforddi a datblygu nhw eu hunain ac ymdrechu i gwblhau hyfforddiant parhaus.
Bydd gan yr ymgeiswyr sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i ofal a datblygiad plant ifanc iawn. Fel lleiafswm, bydd gan yr ymgeiswyr cymhwyster lefel 2 mewn llythrennedd safonol, TGAU, gradd C neu uwch.
Yn ogystal â’r uchod, bydd rhaid cael cymhwyster perthnasol lefel 3 mewn Gofal Plant (neu uwch), profiad o weithio gyda phlant a chael gwybodaeth dda o ddatblygiad plant a deddfwriaeth Arolygiaeth Gofal Cymru, mae polisïau gofal plant ac arfer yn hanfodol.
Sut i ymgeisio: Gallwch ymgeisio drwy’r hysbyseb ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd.
Lleoliad y swydd: Canolfan Gymunedol y Gaer, NP20 3GY
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.