17/01/2025 |
Rheolwr Clwb – The Lil Rascals, Sir Fynwy
Dyddiad cau: 31/01/2025
Oriau: Llawn amser, dydd Llun – dydd Gwener, yn ystod gwyliau ysgol
Cyflog: £16.50 yr awr
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
- TGAU lefel C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg
- Cymhwyster mewn Diogelwch Bwyd a Hylendid
- Hyfforddiant Diogelu Lefel 2
- Profiad o weithio gyda phlant 4-11 oed
- Profiad o weinyddu
- Profiad o weithio mewn capasiti oruchwyliaeth neu reolaeth
- Cyflawni cyfleoedd cyfartal mewn lleoliad chwarae
- Deall anghenion amrywiol plant a theuluoedd
- Darparu a hwyluso cyfleodd chwarae ysgogol a ddiogel
- Profiad diamheuol o arwain
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog gyda dealltwriaeth ddigonol a defnydd da o’r Saesneg, er mwyn sicrhau lles y plant
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun, gan ddefnyddio eich barn bersonol a synnwyr cyffredin
- Bod yn gyfarwydd gyda’r cyfnod sylfaen Blynyddoedd Cynnar
- Hyfforddiant amddiffyn plant priodol
- Profiad o weithio mewn lleoliad plant gofal am o leiaf 2 flynedd
Disgrifiad o’r dyletswyddau:
- Cynllunio, paratoi, a chyflawni cyfleodd chwarae o ansawdd mewn amgylchedd diogel a gofalgar.
- Darparu lluniaeth a gofalu bod safonau hylendid, iechyd, a diogelu yn cael eu bodloni.
- Rhoi cymorth cyntaf pan fo angen.
- Gosod y lle chwarae, gan symud dodrefn a chyfarpar chwarae a chyfleusterau.
- Ymgynghori â phlant a’u cynnwys mewn gweithgareddau cynllunio.
- Rhoi cefnogaeth a goruchwyliaeth i weithiwr chwarae ac aelodau staff eraill, gan gynnwys gwirfoddolwyr.
- Cynnal cyfarfodydd staff, adolygiadau ac arfarniadau rheolaidd ar gyfer staff.
- Gweinyddu a chadw cofnodion, gan gynnwys cofnodion ar gyfer plant a staff, ariannol, archebu, prynu, a gweithio o fewn cyllideb y cytunwyd.
- Datblygu a chynnal sgiliau cyfathrebu gwych gyda holl aelodau’r clwb, ysgolion, ac yn enwedig gyda rhieni.
- Ymgymryd â hyfforddiant priodol a pherthnasol.
- Monitro a chynnal gwasanaeth gweinyddu iach, diogel, a darparu amgylchedd gwaith diogel.
- Gweithio o fewn fframwaith polisïau a gweithdrefnau’r clwb, a’r Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar.
Sut i ymgeisio: Anfonwch e-bost at info@thelilrascals.co.uk am ffurflen gais.
Lleoliad y swydd: Magor, Sir Fynwy
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb, a delio’n uniongyrchol gyda’r person sydd wedi gosod yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.