31/01/2025 |
Gweithiwr Chwarae Cynorthwyol Lefel 3 – Rascals, Clwb All-Ysgol, Caerdydd
Dyddiad cau: 21/02/2025
Oriau: 16 awr yr wythnos, dydd Llun – Gwener, yn ystod y tymor, ar ôl oriau ysgol.
Cyflog: £13.00 yr awr
Cymwysterau / profiad gofynnol:
Hanfodol:
- Dylai deiliad y swydd fod â chymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 3 neu uwch neu gymhwyster tebyg.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
- Gydag agwedd chwaraewr tîm
- Angerdd dros greu amgylchedd cadarnhaol a deniadol i blant
- Hyblygrwydd i addasu yn ôl anghenion y plant
Dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gofal plant
Os ydych yn angerddol am Waith Chwarae ac eisiau ymuno â’n tîm, byddem wrth ein bodd glywed gennych!
Prif Gyfrifoldebau:
- Cefnogi Rheolwr y Clwb a chyfoedion er mwyn oruchwylio ac ymgysylltu â phlant
- Gofalu bod y clwb yn gweithredu yn unol â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Rheoliadau a osodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
- Helpu i gynllunio a gweithredu gweithgareddau (rhwng 4-12 oed) sy’n hybu datblygiad gan roi ystyried i agweddau Iechyd a Diogelwch
- Darparu byrbryd ysgafn a diod i’r plant
- Dacluso a rhoi pethau’n eu lle ar ddiwedd y noson
- Cynorthwyo i gynnal man chwarae glân a threfnus
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant a’u teuluoedd
- Cadw at yr holl bolisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau diogelwch a chydymffurfiaeth
Sut i wneud cais: Anfonwch eich CV at enquiries@rhiwbina-rascals.co.uk
Lleoliad y swydd: CF14 6HL, Caerdydd
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais am Gwiriad Datgeliad Uwch (DBS). Bydd y gost Datgeliad yn cael ei dalu gan y cyflogwr.
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol gyda’r person sydd wedi gosod yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.