Rheolydd – The School House, Wrecsam

Dyddiad cau: 30/03/2025

Rydym yn gobeithio penodi Rheolydd sy’n gallu drefnu eu horiau i gefnogi staff, o leiaf unwaith yr wythnos yn y Little Miners (rhwng 11:30am – 3:00pm) a’r Clwb Ar Ôl Ysgol (rhwng 3.00-5.00pm neu 3:00pm – 6.00pm). Gall goramser fod ar gael, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor.  

Cyflog: £15.50 yr awr  

Cymwysterau / profiad gofynnol:

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant neu gyfwerth.
O leiaf 2 flynedd o brofiad mewn lleoliad gofal plant. 

Cymwysterau dymunol: 

  • Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer neu gyfwerth (neu ymrwymiad i weithio tuag at y cymwyster fel rhan o’r rôl). 
  • Gwaith Chwarae Lefel 3, Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys, Diogelu Grŵp C. 

Disgrifiad o’r dyletswyddau: Mae plant wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn chwilio am reolydd a fydd yn arwain ein darpariaeth drwy feithrin perthnasoedd ystyrlon gyda staff, teuluoedd a’r pwyllgor rheoli. Bydd ein staff delfrydol yn frwd dros lunio a gweithredu’r weledigaeth ar gyfer y lleoliad. 

Sut i wneud cais: Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, y disgrifiad swydd a’r ffurflen gais, cysylltwch â Mrs Dawn Pavey, drwy anfon ebost at:
schoolhouse.secretary@gmail.com 
Gellir hefyd trefnu ymweliadau i’r lleoliad cyn gwneud cais, cysylltwch â Rhian Evans-Trott yn Ysgol yr Hafod, Johnstown, ar 01978 840643.  

Lleoliad y swydd: Wrexham, LL14 2SW 
 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb, a delio’n uniongyrchol gyda’r person sydd wedi gosod yr hysbyseb, ac nid gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 
 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall. 

 

Back to Job Board