Rheolwr Gweithrediadau – Jig-So Canolfan Plant Ceredigion,

Dyddiad cau: 04/04/2025

Oriau: 20 awr yr wythnos, Dydd Llun – Dydd Gwener, yn ystod y tymor a gwyliau’r ysgol.  

Cyflog: £18.00 yr awr  

Y Sgiliau a’r Profiad Hanfodol: 

  • Y gallu i gynllunio a rheoli gweithrediadau, gan gynnwys cydgysylltu, staffio a chyflenwi sesiynau  
  • Profiad o weithio o fewn y sector elusennol / gwirfoddol gyda dealltwriaeth o heriau ac anghenion penodol plant a theuluoedd 
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog gydag agwedd dosturiol ac anfeirniadol 
  • Y gallu i feithrin perthynas ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys sefydliadau eraill, teuluoedd, staff ac ymddiriedolwyr 
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau strategol a/neu fusnes 
  • Hunan gymhelliant gyda’r gallu i weithio’n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm 
  • Cymhwysedd wrth baratoi adroddiadau, cyllidebau, a chynllunio gyda sylw rhagorol i fanylion a’r gallu i gasglu data o amrywiaeth o ffynonellau 
  • Rheoli amser yn dda gyda sgiliau trefnu cryf a’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog yn effeithiol 
  • Dealltwriaeth o bolisïau a gweithdrefnau diogelu 
  • Gwybodaeth ymarferol o raglenni meddalwedd TG, gan gynnwys Microsoft 365 a meddalwedd berthnasol arall 
  • Dealltwriaeth dda o’r egwyddorion sy’n sail i reoli grantiau a chyllid yn dda 
  • Trwydded yrru lawn y DU a defnydd o gerbyd

Dymunir 

  • Sgwrsio’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg 
  • Dealltwriaeth o reoliadau diogelu data a GDPR 

Nodweddion Personol 

  • Person rhagweithiol, llawn cymhelliant gydag angerdd dros greu dulliau arloesol o ymyrraeth gynnar a gwasanaethau cymorth ataliol 
  • Chwaraewr tîm cydweithredol sydd â  sgiliau rhyngbersonol rhagorol 
  • Hyblygrwydd i addasu i anghenion esblygol yr elusen a’i defnyddwyr gwasanaeth

 

Disgrifiad o’r dyletswyddau:  

A hon yn rôl newydd, bydd y Rheolwr Gweithrediadau yn arwain ac yn datblygu gwasanaethau Canolfan Blant Jig-So ac yn goruchwylio gweithgareddau dyddiol sy’n darparu cyfleoedd i blant a’u teuluoedd gael mynediad at ymyrraeth gynnar a chymorth ataliol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i sicrhau bod cynlluniau’r Ganolfan yn cael eu datblygu a’u cyflawni yn unol â nodau ac amcanion yr elusen ac yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd Jig-So. 

Wedi’i leoli yn Aberteifi, bydd y Rheolwr yn gweithio gyda staff Jig-So, gwirfoddolwyr, partneriaid a’r gymuned ehangach i sicrhau bod Jig-So yn parhau i ddarparu gwasanaethau croesawgar, hygyrch a diogel i blant a’u teuluoedd. 

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad rheoli profedig a sgiliau cyfathrebu gwych; a byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.  

Sut i ymgeisio: Ebostiwch lythyr cyflwyno a CV i office@jigso.wales    

I Sylw: Buddig Meredith Am ymholiadau, disgrifiad llawn o’r swydd a manyleb person, ebostiwch office@jig-so.wales.    

Lleoliad y swydd: SA43 1DW, Ceredigion 

 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 
 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall. 

Back to Job Board