13/01/2025 |
Gweithiwr Chwarae – Clwb ar ôl Ysgol, Gold Stars, Caerdydd
Dyddiad cau: 31/01/2025
Oriau: 15 awr yr wythnos, dydd Llun – ddydd Gwener, yn ystod y tymor, ar ôl oriau ysgol.
Cyflog: £12.00 yr awr
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
- Profiad blaenorol o weithio gyda phlant yn hanfodol.
Disgrifiad o’r dyletswyddau:
- Goruchwylio plant, gan sicrhau eu diogelwch a’u lles drwy’r amser.
- Darparu gweithgareddau a gemau addas er mwyn i blant eu mwynhau.
- Annog ymddygiad da.
- Cefnogi arweinwyr y clwb gyda rheolaeth gyffredinol y clwb ar ôl ysgol.
- Paratoi a chau’r clwb bob dydd.
Sut i ymgeisio: Anfonwch e-bost at Debbie Gray: Goldstarsafterschoolclub@outlook.com
Lleoliad y swydd: CF24 5EB, Caerdydd
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol gyda’r person sydd wedi gosod yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.