Gweithiwr Cymorth – Oak Hill ASD Childcare, Casnewydd

Dyddiad cau: 31/05/2025

Oriau: hyd at 34 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Iau, yn ystod tymor ysgol ac yn ystod gwyliau.  

Cyflog: £11.70 yr awr  

Cymwysterau / profiad gofynnol:  

  • Profiad hanfodol o weithio gyda phlant ag Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD) 
  • Mewn meddiant o gymhwyster perthnasol fel y’i diffinnir gan yr awdurdod cofrestredig (AGC) neu’n fodlon i weithio tuag ato. 
  • Mewn meddiant o Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) manylach dilys 
  • Gwybodaeth o ymwybyddiaeth Awtistiaeth 
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol ag sawl unigolyn a sefydliad gwahanol 
  • Gallu cyfranu’n effeithiol at gynnal systemau a chofnodion ar gyfer gweinyddu’r ddarpariaeth yn effeithiol 
  • Gyda chymhwyster diogelu presennol 
  • Gyda gwybodaeth ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 
  • Dealltwriaeth o ddatblygiad drwy chwarae a datblygiad plant ac y gall i ddiwallu anghenion y plant neu’n barod i ymgymryd â hyfforddiant 

Dymunol:  

  • Mewn meddiant o gymhwyster Cymorth Cyntaf cyfredol 
  • Mewn meddiant o gymhwyster lefel 2 mewn Gwaith Chwarae (gallwn eich helpu gyda hyn) 
  • Mewn meddiant o gymhwyster Diogelwch Bwyd cyfredol 
  • Yn wybodus o’r ddeddfwraeth berthnasol i’r ddarpariaeth o ofal plant ar gyfer plant oed ysgol 
  • Gwybodaeth o strategyddion ar gyfer plant ag Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD) 
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth epilepsi 
  • Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) – ar y gwasanaeth diweddaru (gallwn gynnig hwn i chi) 

Diben y Swydd:  

  • Cynnig cymorth un-i-un drwy’r amser i blant sy’n mynychu’r clwb gwyliau yn unol â’u CDU a dymuniadau eu rhieni. 
  • Deall a chyfrannu at amgylchedd chwarae sy’n gyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol 
  • Cyfrannu at gynllunio sesiynau chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc 
  • Cydymffurfio â’r rheoliadau gofal dydd, mewn perthynas â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. 

Prif Ddyletswyddau:  

  • Cyfrannu er mwyn darparu amgylchedd chwarae cyfoethog, hyblyg ac ysgogol lle mae plant ag Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD) yn gallu chwarae’n rhydd. 
  • Helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer chwarae gan gynnwys gweithgareddau, paratoi’r amgylchedd ac adnoddau sy’n diwallu eu hanghenion chwarae. 
  • Meithrin perthnasau effeithiol ac onest gyda’r plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr. 
  • Dilyn canllawiau a gweithdrefnau er mwyn diogelu, fel yr awgrymwyd yr awdurdod cofrestredig. 
  • Cymryd rhan mewn adolygu a myfyrio ar bolisïau a gweithdrefnau sydd ar waith. 
  • Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n briodol (os yw’n gymwysedig). 
  • Cynnal goruchwyliaeth briodol o’r plentyn sydd angen cefnogaeth un-i-un, a lle bo’n briodol, goruchwylio plant eraill. 
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael i’w casglu gan rieni/gofalwyr gan weithio tuag at ganllawiau polisi. 
  • Cyfrannu at ddarparu a pharatoi ystod o brydau gwahanol sy’n addas ar gyfer plant a phobl ifanc gan oruchwylio yn ystod adeg bwyd. 
  • Helpu gydag unrhyw ddyletswydd arall sy’n ofynnol gan y Rheolwr Gofal Plant ac yn briodol i’r rôl. 
  • Cyfrannu at gyfarfodydd tîm. 
  • Cysylltu â’r pwyllgor rheoli/rheolwr/perchennog, rhieni, ysgolion, ac asiantau eraill, fel y bo’n berthnasol a’n ofynnol.  
  • Annog rhieni i ymwneud a chefnogi’r Clwb. 
  • Cyfrannu at adolygu ansawdd y gwasanaethau – gan gynnwys adborth gan blant a rhieni.
     

Sut i ymgeisio: Anfonwch ebost at Tracey:info@oakhillasd.com neu ffoniwch 07375 836513  

Lleoliad y swydd: Casnewydd, NP20 3FQ 

 

 Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall. 

Back to Job Board