Ymarferydd Gofal Plant – Castle Kids, Casnewydd

Dyddiad cau: 20/12/2024

Oriau: 17.5 yr wythnos, Dydd Llun – Dydd Gwener, yn ystod y tymor, ar ôl oriau ysgol. 

Cyflog: Gradd 3 SCP 5 – 6 £24,790 – £25,183 (Pro rata) 

Cymwysterau / profiad gofynnol:  

Gradd 3 SCP 5 – 6 £24,790 – £25,183 (Pro rata) 

Disgrifiad o’r dyletswyddau:  

Cymwysedig ar Lefel 3 (Gofal Dysg a Datblygiad Plant[CCLD], Gofal Chwarae Dysg a Datblygiad Plant[CCPLD], NVQ neu debyg), Gwaith Chwarae Lefel 3 yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru.  

 Disgrifiad o’r dyletswyddau:  

Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 2:30yh – 6yh yn ystod tymor yr ysgol (39 wythnos).  

Rydym am benodi ymgeisydd sydd yn: 

Ymarferydd brwdfrydig a hunan-gymhellol 

– Yn ddibynadwy a chydwybodol 

– Aelod tîm rhagorol sy’n fodlon ymuno’n llawn â bywyd y Clwb Ôl-Ysgol 

– Ymarferydd gofalgar sy’n gosod lles plant wrth galon eu hymarfer. 

– Sgiliau cyfathrebu ardderchog ag aelodau o’r tîm, plant, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill. 

– Yn meddu ar y gallu i nodi ei anghenion hyfforddi a datblygu ei hun a chymryd rhan mewn hyfforddiant parhaus. 

Disgrifiad o’r dyletswyddau:Hebrwng plant i’r feithrinfa ac yn ôl ac i’r clwb ar ôl ysgol, gan sicrhau y dilynir y drefn gywir. Cefnogi plant yn eu dysgu a’u datblygiad, yn unol â chanllawiau Dechrau’n Deg. Sicrhau bod pob plentyn yn profi ystod eang o gyfleoedd chwarae creadigol ac arbrofol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.  

Ymgysylltu â rhieni Dechrau’n Deg drwy ddarparu cymorth cychwynnol, bod yn sensitif, yn gydymdeimladol ac ymdrin ag unrhyw bryderon.  A hefyd gynnig cyngor a chyfeirio at asiantaethau eraill yn ôl yr angen.  

Dilyn canllawiau a gweithdrefnau ar gyfer Diogelu fel yr argymhellir gan Gyngor Dinas Casnewydd (NCC) a staff cymorth pan fo angen. Cadw cyfrinachedd llym ar gyfer pob lleoliad gofal plant mewn perthynas â gwybodaeth a gedwir am blant a theuluoedd.  

Sut i ymgeisio: Tudalen swyddi Cyngor Sir Casnewydd  

Lleoliad y swydd: Castle Kids, Canolfan Gymunedol Gaer, Casnewydd,NP20 3GY 

 

 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.  

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board