08.11.2022 |
Cadeirydd newydd i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi penodiad Esyllt Lord fel ein Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr newydd.
Daw Esyllt o Orllewin Cymru ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd ers astudio yn y brifysgol yno. Mae Esyllt wedi gweithio i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Chapter a nifer o sefydliadau a chwmnïau celfyddydol, cyn newid i weithio gyda phlant tua 18 mlynedd yn ôl. Mae wedi bod rhedeg Cymer Ofal, gyda’u phartner busnes, Rebecca Gibbs, yn cynnig Clybiau Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg yng Nghaerdydd ers 2012.
Mae Esyllt wedi gwasanaethu ar ein Bwrdd dros y 12 mis diwethaf ac wedi dysgu cryn dipyn am y gyfundrefn. Rydym mor falch ei bod wedi cymryd yr her o’n llywio trwy gyfleoedd newydd dros y cyfnod nesaf hwn i’n helpu i barhau i ddilyn ein gweledigaeth o Gymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu.
Dywedodd Esyllt “Mae gweithio gyda phlant a gweithwyr chwarae’n brofiad rhyfeddol bob tro, ac mae ehangu’r cyfleoedd i blant chwarae yng Nghymru mor bwysig. Rwy wir yn llawn cyffro i fod yn dechrau fel Cadeirydd cyfundrefn mor hanfodol a chadarnhaol â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.”
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Esyllt i yrru ein nodau strategol yn eu blaenau a helpu i wireddu ein gweledigaeth lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu.
Mae Esyllt yn cymryd yr awenau oddi wrth Sam Maitland Price sydd wedi gwasanaethau fel ein Cadeirydd am y 12 mis diwethaf. Diolchwn i Sam am y gwaith y mae wedi ei wneud i’n cefnogi dros y cyfnod hwn.
Dywedodd Sam said “Rwy’n dymuno pob lwc i Esyllt ar ei menter newydd fel Cadeirydd. Rwy’n siŵr y bydd yn parhau i weithio’n galed a bod yn llais cryf i’r sector wrth i ni ei chefnogi i wneud hynny.”