Rydym yn galluogi, yn grymuso ac yn annog ein Cymuned o Glybiau i gredu yn eu galluoedd eu hunain. Gan gynnig cymorth yn ôl yr angen, rhown gyfle iddynt gymryd perchnogaeth o’u Clybiau Gofal Plant Allysgol, â balchder. Rydym am weld Clybiau Gofal Plant Allysgol yn ffynnu. Edmygwn yr effaith ryfeddol y maen nhw, a’n Cymuned o Glybiau, yn ei chael ar brofiadau plant.
Aelodau
Pam dod yn aelod?
Mae popeth a wnawn wedi’i seilio ar ein gwybodaeth eang o’r Sector Gofal Plant Allysgol. Gwyddom fod pob clwb yn wahanol, a gwyddom yn well na neb arall nad oes ‘un ffordd sy’n iawn i bawb’. Edmygwn yr amrywiaeth o glybiau – a defnyddiwn ein harbenigedd a’n gwybodaeth o’r diwydiant i addysgu a chefnogi ein Cymuned o Glybiau.
Plant
Rydym yn cefnogi Gweithwyr Chwarae i ddarparu’r gofal plant gorau posibl ledled Cymru
Ffyniant
Mae gennym lyfrgell o adnoddau i’ch helpu i dyfu’ch Clwb Gofal Plant Allysgol a dod yn gynaliadwy
Llais
Byddwch yn rhan o’r llais dros y gymuned Ofal Plant Allysgol
Chwarae
Byddwch yn rhan o’n gweledigaeth i wneud Cymru’n lle y mae Plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu
Ffurflen aelodaeth
Aelod Cysylltiedig Categori 1
Aelod Cysylltiedig Categori 2
Ffurflen Gais am Aelodaeth
Bydd eich aelodaeth ddi-dâl hyd at 31.03.2027 yn arbed y canlynol i chi:.
£20.00 am bob person unigol sy’n bwcio’u lle ar gwrs Hyfforddi (mae ffi o £20.00 y person yn achos rhai nad ydynt yn aelodau
£50.00 os ydych yn prynu gweithdy clwb
Gostyngiad o hyd at 5% ar Wiriadau’r GDG (DBS) gydag uCheck
10% oddi ar deganau a chyfarpar gan Stepping Stones
10% oddi ar deganau a chyfarpar gan EYP Direct
CEWCH hefyd fynediad at:
Hysbysebu i’ch clwb yn ddi-dâl ar www.clybiauplantcymru.org – fel y gall rhieni/gofalwyr ddod o hyd i’ch lleoliad
Hysbysebion recriwtio yn ddi-dâl ar www.clybiauplantcymru.org a’r cyfryngau cymdeithasol
E-Newyddion Ariannu misol yn ddi-dâl
Newyddlen chwarterol yn cynnwys syniadau ar weithgareddau a chodi arian, yn ddi-dâl
Cyhoeddiadau yn ddi-dâl, yn cynnwys Camu Allan (sy’n llawn o bolisïau enghreifftiol a gweithdrefnau i’ch helpu i fodloni’r Safonau Cenedlaethol Sylfaenol) a ddiweddarwyd yn 2020 i gynnwys templedi a pholisïau penodol i Covid-19.
Arweiniad arbenigol ar gynllunio busnes, ehangu, cofrestru, sicrwydd ansawdd a phob agwedd arall ar ddarpariaethau Clybiau Gofal Plant All- ysgol yn ddi-dâl gan dîm o Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant.
Cymorth ac arweiniad ar faterion gofal plant a busnes gan eich swyddfa ranbarthol.
Cyfle i fod yn rhan o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a llunio dyfodol Gofal Plant All-ysgol yng Nghymru
Ffurflen Gais am Aelodaeth
2026/2027 Aelodaeth Gysylltiol
Categori 1: ar gyfer rhai sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol ar gyfer plant
Aelodaeth Flynyddol: £85 am 2026-27
Pam dod yn aelod?
•Cewch fynediad i dudalennau gwe ac adnoddau sy’n arbennig ar gyfer aelodau AM DDIM, ar www.clybiauplantcymru.org
•Tanysgrifiad i’n newyddlen chwarterol ‘Y Bont’ AM DDIM – a graddfeydd hysbysebu gostyngol.
•Cewch hysbysebu swyddi gwag yn eich clwb ar ein gwefan – AM DDIM – does ond angen i chi e-bostio recruitment@clybiauplantcymru.org.
•E-fwletin yn cynnig ffynonellau ariannu arbenigol AM DDIM (mae angen cyfeiriad ebost). Cyhoeddiadau achlysurol AM DDIM neu ar ddisgownt.
•Mynediad i Gyrsiau Hyfforddi.
•Cefnogaeth gan eich swyddfa ranbarthol – sy’n rhoi arweiniad ar faterion gofal-plant