Adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae 2025

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan y pedair Gwlad ledled y DU.

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) yn ddatganiadau o’r safonau perfformiad ar gyfer sector penodol. Ar gyfer gwaith chwarae, maent yn cynnwys y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn weithiwr chwarae, yn weithiwr chwarae â gofal neu’n rheolwr gwaith chwarae. Cytunir ar SGC gan y sector ac fe’u defnyddir fel sail ar gyfer datblygu cymwysterau. Gellir eu defnyddio hefyd i gefnogi datblygiad disgrifiadau swyddi ac asesiadau staff.

Am ddarllen pellach ar y SGC Gwaith Chwarae a’r adolygiad parhaus, edrychwch ar y ddolen isod.

Bydd Consortiwm y SGC yn edrych i ymgynghori a chael adborth gan y sector gwaith chwarae ar ddechrau 2026 felly cadwch lygad ar y gofod hwn.

Gwybodaeth pellach