Adroddiad Effaith yr Addewid Cymraeg Cwlwm 2026

Mae’r Addewid Cymraeg yn ffordd i leoliadau Gofal Plant a Chwarae cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg a dangos eu gwaith tuag at y Cynnig  Rhagweithiol gan rannu’r gwaith mewn i adrannau bach y gellir eu rheoli. Gall y Cynnig Rhagweithiol a chyflwyno’r iaith Gymraeg ymddangos fel proses anodd i leoliadau ond mae’r Addewid Cymraeg yn darparu canllaw cam wrth gam i leoliadau i weithio tuag at hyn, heb gael eu llethu’n ormodol. 

Mae’r adroddiad effaith hwn yn tynnu sylw at y camau cadarnhaol a gymerwyd i gryfhau’r ddarpariaeth iaith Gymraeg a’r gwahaniaeth y mae’r Addewid Cymraeg wedi’i wneud mewn lleoliadau Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru. 

Wrth i’r gwaith hwn barhau, mae’r canfyddiadau hyn yn helpu i adeiladu momentwm a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod wrth wraidd ymdrechion i gadw Addewid i Gymru. 

Darllen mwy