Ar gyfer pwy y mae’r cwrs yma – mae’r cwrs yma’n hyfforddiant rhagarweiniol ardderchog mewn gwaith chwarae i’r rhai sydd â diddordeb mewn cael gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae, gwaith chwarae a sut mae gweithwyr chwarae’n gweithio gyda phlant.
Gellid rhedeg y cwrs hwn ar gyfer rhieni, pobl ifanc yn yr ysgol neu wirfoddolwyr, er enghraifft.
Ar gyfer pa rolau y mae hwn – nid yw’n cymhwyso dysgwyr i weithio mewn lleoliadau cofrestredig ond mae’n gam rhagorol i gymwysterau eraill ac yn help i feithrin hyder. Byddai’n gwrs da i’r rhai sy’n dechrau o’r newydd mewn gwaith chwarae neu’n gwirfoddoli mewn lleoliad.
Beth i’w ddisgwyl – mae’r cwrs hwn yn defnyddio gweithgareddau ymarferol i archwilio manteision a phwysigrwydd chwarae, a phwysigrwydd y gweithiwr chwarae. Fe’i cyflwynir mewn ffordd ddeinamig ac ymarferol iawn, dros 10 awr, mewn 2 ddiwrnod. Bydd llyfr gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y sesiynau, i’w gyflwyno yn yr 2ail sesiwn.
Gofynion Cymhwysedd –
“Dwi wedi gwneud ffrindiau cyn dechrau’r cynllun chwarae yn yr haf, ac yn edrych ymlaen at weithio. Dwi’n teimlo fy mod yn gwtybod sut i asesu’r risg mewn chwarae a sut i fod yn well aelod o’r tîm.”