Siaradwr Gwadd Clwb Hwb AY

Dowch i ymuno â ni ar Hydref 16eg am 6.30yh

Byddwn yn trafod heriau, rhwystrau a syniadau am arferion gorau .

I wneud hyn mae gennym siaradwr gwadd sydd â phrofiad helaeth yn y sector; peidiwch â methu’r cyfle yma i ennill gwybodaeth a gofyn unrhyw gwestiynau a fydd gennych.

Dowch i gwrdd â Tracy

Mae Tracy Thornton wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal plant elusennol a phreifat yn Lloegr a Chymru dros y 27 o flynyddoedd diwethaf.

“Mi wnes ddatblygu angerdd dros  Anghenion Dysgu Ychwanegol(ADY) /Anghenion Addysg Arbennig (SEN) yn gyflym a mwynhau’r camau  bychain y llwyddwyd i’w gwneud a’r gwahaniaeth a wnaethant i’r bobl eu hunain, y lleoliad a’u teuluoedd. Ers hynny rwyf wedi ymestyn fy ngwybodaeth drwy wneud gwahanol gyrsiau mewn  Teacch, Makaton, PECS a rhyngweithio dwys. Yn fy rôl bresennol, fe wnes waith-leoliad mewn ysgol arbenigol er mwyn ennill profiad gwerthfawr gyda myfyrwyr ysgol uwchradd ag Awtistiaeth, i’w cynorthwyo orau y gallem tra’r oeddent yn mynychu ein clwb gwyliau.”

Gobeithio’ch gweld yno!