11.10.2024 |
Siaradwyr Gwadd Clwb Hwb AY
Ym mwletin yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyflwyno Tracy Thornton, siaradwr gwadd yn ein Clwb Hwb AY.
Yr wythnos hon rydym yn cyflwyno ein hail siaradwr – Debbie Tingley.
Dowch i gwrdd â Debbie
“Rwyf wedi bod yn gweithio yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn ers 2003, gan ddechrau mewn dosbarth i blant ag awtistiaeth ac ymddygiad heriol iawn. Mae gan yr ysgol hefyd blant ag anghenion meddygol a chorfforol cymhleth dwys, llawer ohonynt â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Yn 2011 symudais o’r ystafell ddosbarth a dechrau cwnsela rhieni/aelodau teulu ac ymunais ag adran gwasanaethau teulu ein hysgol. Mae fy rôl wedi datblygu a thyfu, rwyf bellach yn hwyluso grwpiau rhianta ar strategaethau ymddygiad a chyrsiau coginio bwyta’n iach.
Sefydlais fy nghlwb ar ôl ysgol yn 2010, er ei fod wedi bod ar gau ers Covid. Mae hyn yn bennaf oherwydd cyllid. Rwyf wedi bod yn arweinydd chwarae ar gyfer ein cynllun chwarae ers 2010. Mae’n rhedeg yn ystod 4 gwyliau ysgol ar gyfer unrhyw blentyn sy’n mynychu ein hysgol. Mae’n gynllun unigryw, pwrpasol iawn. Cawsom ein harolygu ym mis Gorffennaf ac fe’n dyfarnwyd yn rhagorol ym mhob maes.
Yr hyn rwy’n angerddol yn ei gylch yw bod pob plentyn gael cyfle i brofi cymaint ag y gall waeth beth fo’r rhwystrau, a hefyd i sicrhau bod y teuluoedd yn gallu gwneud pethau gyda’r holl frodyr a chwiorydd am fod eu plentyn yn defnyddio ein darpariaeth ni. Nid oes dim yng Nghaerdydd ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol; ac mae gwybod mai dyma’r cyfan sydd ganddynt yn ei gwneud hi’n bwysicach iddynt hwy a’u teuluoedd bod y lle’n dal i redeg.”
Mae gan y siaradwyr gwadd hyn brofiad helaeth yn y sector, peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael gwybodaeth a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych!