27.06.2026 |
Arolygiaeth Gofal Cymru: Gwersi o arferion sy’n werth eu rhannu
Mae ansawdd yn rhywbeth rydym i gyd yn ymdrechu amdano ac yn ceisio ei gefnogi ym mhob un o Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Rydym yn falch o weld bod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi’r ddogfen Gwersi o arferion sy’n werth eu rhannu:
“Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar arferion sy’n werth eu rhannu. Mae’n ystyried y ffactorau cyffredin sy’n sail i’r arferion cadarnhaol rydym yn eu gweld wrth arolygu. Gobeithiwn y bydd yn helpu’r rhai sy’n gweithio yn y sector i ystyried sut y gallant wella ymhellach y gofal a’r cymorth y maent yn eu darparu i blant a theuluoedd sy’n defnyddio eu gwasanaethau” – AGC
Yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, mae gennym ystod eang o becynnau cymorth ategol a fydd yn eich galluogi chi a’ch tîm Clwb Gofal Plant All-Ysgol i fyfyrio, addasu a diweddaru ansawdd eich gofal yn flynyddol. Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn eich cefnogi.
Info@clybiauplantcymru.org