Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn gofal cymdeithasol

Mae AGC wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn gyfrifol mewn lleoliadau gofal. 

Mae’r canllawiau’n cydnabod bod gan DA y potensial i gefnogi gwaith gweinyddol, cyfathrebu a darparu gwasanaethau, ond maent yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y defnydd ohono’n ddiogel, yn foesegol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae darparwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal cyfrinachedd, diogelu data, arfer barn broffesiynol a sicrhau llesiant plant, pobl ifanc a theuluoedd wrth ddefnyddio offer DA. 

Mae’r canllawiau’n annog sefydliadau i ystyried yn ofalus sut y defnyddir DA yn eu gwasanaethau, gan gynnwys y manteision posibl, y cyfyngiadau a’r risgiau. Maent hefyd yn pwysleisio’r angen am dryloywder, goruchwyliaeth briodol a sicrhau nad yw DA yn disodli gwneud penderfyniadau proffesiynol. 

Wrth i offer DA ddod yn fwyfwy cyffredin yn y gweithle, mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i leoliadau gofal plant a gwaith chwarae sy’n ystyried sut y gellir defnyddio’r technolegau hyn i gefnogi eu gwaith, gan barhau i gyflawni eu cyfrifoldebau rheoleiddio a diogelu. 

Gallwch ddarllen y canllawiau llawn ar y wefan: 

https://www.arolygiaethgofal.cymru/arolygiaeth-gofal-cymru-defnyddio-deallusrwydd-artiffisial-ai-ym-maes-gofal-cymdeithasol?fbclid=Iwb21leAVqvvBjbGNrBWq-w2V4dG4DYWVtAjExAHBkb2YFc3J0YwZhcHBfaWQMMzUwNjg1NTMxNzI4AAEfHmcqHfa-sIE_yKrHT2DqLEh9iJ0RJRodBXi8lX1x59e0I1DBd8btnaNEeu8_aem_JEAeTWJYvg81L6jJxX1svQ