![](https://www.clybiauplantcymru.org/cy/wp-content/uploads/sites/2/2023/02/1.png)
07.02.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau
Mae hon yn ddathliad blynyddol yn y Deyrnas Unedig. Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau’n ddigwyddiad wythnos o hyd sy’n anelu at dynnu sylw at effaith cadarnhaol prentisiaethau ar unigolion, cyflogwyr a’r economi. Y mae’n rhoi cyfle i ddathlu cyflawniadau’r prentisiaid a’r cyfraniadau y maent yn ei wneud i ddiwydiannau a sectorau amrywiol. Yn 2025 fe’i nodir o Chwefror 10fed i Chwefror 16eg.