Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mis Hanes LHDT

Mae Mis Hanes LDHT yn ddigwyddiad blynyddol a drefnwyd gan elusen LDHT y DU, sef Schools OUT. Mae’n cydnabod y brwydrau presennol sy’n wynebu cymuned LDHTC+, yn ogystal â digwyddiadau drwy hanes sydd wedi ffurfio cymdeithas heddiw, fel y reiats Stonewall.

Mae cyflawniadau ffigurau LDHTC+ yn aml yn cael eu hanwybyddu, yn enwedig yn y cwricwlwm ysgol. Mewn ymateb, mae Mis Hanes LDHT yn anelu at gydnabod yr ebyrth a wnaed gan y gymuned, sydd wedi arwain at gerrig milltir hanesyddol fel y dad -droseddoli cyfunrhywiaeth, ym 1967.

Ffynhonnell: Parenta

 

 

Thema Mis Hanes LDHT 2025 yw: Ac Actifiaeth a Newid Cymdeithasol #ActifiaethCymdeithasol

Mae llawer o resymau pam mae Mis Hanes LDHT yn bwysig. O ysgol i fusnes, o wleidyddiaeth genedlaethol i fyd-eang, mae pob sector yn elwa’n wahanol o’r digwyddiad blynyddol. Darganfod pam mae Mis Hanes LDHT yn bwysig yn y gweithle isod:

  • Cofio am y rhai ledled y byd sy’n byw heb hawliau
  • Dysgu am ffigurau a digwyddiadau hanesyddol LDHTC+
  • Hybu cynhwysiant a dealltwriaeth yn y gweithle
  • Cofio pa mor bell rydym wedi dod yn y frwydr am gydraddoldeb
  • Creu byd gwell i weithwyr ifanc LDHTC+

Darllen mwy