Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Ramadan

Chwefror 28ain hyd Fawrth 30ain.

Yn ystod mis Ramadan, ni fydd Mwslemiaid yn bwyta nac yn yfed yn ystod oriau golau dydd. Gelwir hyn yn ymprydio. Nid oes disgwyl i blant ymprydio nes cyrraedd y glasoed, fel arfer tua 14 oed.

Mae Ramadan yn cofio’r mis y datgelwyd y Qur’an (llyfr sanctaidd Mwslimaidd) am y tro cyntaf i’r Proffwyd Muhammad. Y noson wirioneddol y datgelwyd y Qur’an yw noson o’r enw Lailut ul-Qadr (‘Noson Grym’).

Pryd mae Ramadan?

Ramadan yw nawfed mis y calendr Islamaidd. Mae union ddyddiadau Ramadan yn newid bob blwyddyn. Mae hyn oherwydd bod Islam yn defnyddio calendr sy’n seiliedig ar gylchredau’r Lleuad.

Mae’r rhan fwyaf o Fwslimiaid yn ymprydio rhwng gwawr a machlud haul.

Mae ymprydio yn caniatáu i Fwslimiaid ymroi i’w ffydd.

Credir ei fod yn dysgu hunanddisgyblaeth ac yn eu hatgoffa o ddioddefaint y tlawd.

Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i blant, menywod beichiog, yr henoed na’r rhai sy’n sâl neu’n teithio ymprydio.

Yn ystod Ramadan, mae’n gyffredin cael un pryd (a elwir yn suhoor), ychydig cyn y wawr ac un arall (a elwir yn iftar), yn syth ar ôl machlud haul.