
07.03.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Mawrth 10fed – 16eg
Wythnos Gompost y DU
Mae’r wythnos gompost yn y DU – Compost Week UK, yn fenter flynyddol a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth am fanteision amgylcheddol compostio. Mae’r wythnos hon yn gyfle gwych i naill ai ddechrau compostio yn eich clwb neu i wella eich arferion compostio presennol.
A yw eich clwb yn frwd dros gynaliadwyedd neu a hoffech chi ddod yn fwy cynaliadwy fel clwb? Cliciwch ar y ddolen i weld sut allwch chi ymuno.
https://www.awarenessdays.com/awareness-days-calendar/compost-week-uk-2025/
Mawrth 15fed
Comic Relief/ Diwrnod Trwynau Coch 2025
Mae’r Diwrnod Trwynau Coch yn ymgyrch codi-arian byd-eang sy’n ymroddedig i ddod â thlodi plant i ben a chefnogi plant a chymunedau bregus. Mae’r ymgyrch yn defnyddio hiwmor ac adloniant i ddod â phobl at ei gilydd at achos difrifol, gan annog unigolion a sefydliadau i godi arian ac ymwybyddiaeth o raglenni sy’n darparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal iechyd, a diogelwch bwyd.
Sut i Ddathlu Diwrnod Trwynau Coch yn eich Clwb chi
- Gwisgwch Drwyn Coch: Dangoswch eich cefnogaeth i’r achos ac anogwch y plant i wisgo trwynau coch i’r Clwb.
- Trefnwch Godwr-Arian: Cynlluniwch ddigwyddiad codi-arian yn y Clwb, megis sêl pethau pôb, sioe dalent neu redfa hwyl i godi arian at Ddiwrnod Trwynau Coch.
- Rhannwch y Newydd:
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i sôn am ymwneud eich lleoliad â’r Diwrnod Trwynau Coch ac anogwch eraill i gymryd rhan.
Mawrth 17eg, Dydd Gŵyl Padrig
Sut i gymryd rhan
Dyma rai ffyrdd o gymryd rhan yn nathliadau Dydd San Padrig yn eich clwb chi:
- Gwisgwch i fyny mewn gwyrdd: Ar Ddydd San Padrig, mae’n draddodiadol gwisgo dillad gwyrdd neu ategolion, sy’n cynrychioli tirwedd gyfoethog werdd Iwerddon. Anogwch y plant i wisgo dillad gwyrdd i fynd i ysbryd y dydd
- Gwrandewch ar gerddoriaeth Wyddelig: O ganeuon gwerin traddodiadol i ganeuon pop modern, mae cerddoriaeth Wyddelig yn rhan allweddol o ddathliadau Dydd San Padrig. Gwrandewch ar orsaf radio leol neu lluniwch eich rhestr chwarae eich hun ar thema Wyddelig i’ch cael yn yr hwyl gywir.
- Dysgwch am ddiwylliant Gwyddelig: Mae Dydd San Padrig yn gyfle gwych i ddysgu mwy am hanes, diwylliant a thraddodiadau Iwerddon. Darllenwch am fywyd Sant Padrig a dysgwch ychydig o ymadroddion Gwyddeleg.