Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Cyhydnos y Gwanwyn (Mawrth 20fed, 2025)

Mae Cyhydnos y Gwanwyn yn nodi diwrnod cyntaf y gwanwyn yn Hemisffer y Gogledd. Dyma’r foment pan fydd dydd a nos yn gyfartal o ran hyd, sy’n symbol o gydbwysedd ac adnewyddiad bywyd. Mae Cyhydnos y Gwanwyn yn amser pan fo llawer o ddiwylliannau’n dathlu adfywiad natur, plannu cnydau, a gwyliau tymhorol amrywiol sy’n anrhydeddu adnewyddiad y Ddaear.

Sut i Ddathlu Cyhydnos y Gwanwyn yn eich Clwb Chi:

  • Treulio Amser ym Myd Natur: Croesawu dyfodiad y gwanwyn trwy dreulio amser yn yr awyr agored. Mae hwn yn amser perffaith i gysylltu â natur a gwerthfawrogi’r newidiadau yn yr amgylchedd.
  • Plannu Gardd: Dechreuwch ardd neu plannwch flodau i ddathlu tymor y tyfiant.

 

Diwrnod Trwynau Coch (Mawrth 21ain, 2025)

Mae Diwrnod y Trwynau Coch yn ymgyrch codi arian byd-eang sy’n ymroddedig i ddod â thlodi plant i ben a chefnogi plant a chymunedau bregus. Mae’r ymgyrch yn defnyddio hiwmor ac adloniant i ddod â phobl at ei gilydd at achos difrifol, gan annog unigolion a sefydliadau i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer rhaglenni sy’n darparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal iechyd, a diogelwch bwyd. Mae Diwrnod y Trwynau Coch yn adnabyddus am ei drwynau coch nodedig, y mae cyfranogwyr yn eu gwisgo fel symbol o’u hymrwymiad i’r achos.

Sut i Ddathlu Diwrnod Trwynau Coch yn eich Clwb Chi

  • Gwisgwch Drwyn Coch:  prynwch drwyn coch a’i wisgo â balchder ar Ddiwrnod Trwynau Coch. Wrth wneud hyn byddwch  yn dangos eich cefnogaeth i’r achos ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o dlodi plant.
  • Trefnwch Godwr-Arian: 

Cynlluniwch ddigwyddiad codi-arian, megis stondin gacennau, sioe neu redfa hwyl i godi arian at Ddiwrnod Trwynau Coch.

  • Rhannwch y Newyddion: Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i rannu eich ymwneud â Diwrnod Trwynau Coch ac anogwch eraill i gymryd rhan neu gyfrannu.

 

Diwrnod Dŵr Byd-Eang (Mawrth 22ain 2025)

This day is about promoting the importance of water to our survival, and highlighting the 2.2 billion people living without access to safe water in the world.

Sut i gefnogi Diwrnod Dŵr Byd-Eang –

  • Cefnogwch y plant yn eich lleoliad i ddefnyddio llai o ddŵr.
  • Sicrhau bod y tapiau wedi’u troi i ffwrdd.
  • Annog cawodydd byrrach gartref.
  • Dangoswch gefnogaeth ar-lein drwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodDwrByd-eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

I ddarllen mwy https://www.worldvision.org.uk/about/blogs/helping-families-access-clean-water/