27.10.2023 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Calan Gaeaf – Dydd Mawrth Hydref 31 2023 Gwyliau i Blant: Calan Gaeaf (ducksters.com)
Dywedir bod Calan Gaeaf yn tarddu yn yr ŵyl Geltaidd Aeleg Samhain, a ddathlir ddiwedd tymor y cynhaeaf. Dros amser, pan ddaeth Cristnogaeth i fod y grefydd gryfaf y tiroedd Celtaidd, roedd y dathliad yn cyd-daro â Diwrnod yr Holl Saint ar Dachwedd 1af a daeth yn adnabyddus fel All Hallows Eve cyn dod yn ddathliad Calan Gaeaf yn y pen draw. Ar Galan Gaeaf mae pobl yn draddodiadol yn gwisgo i fyny mewn gwisgoedd ac mae plant yn aml yn cael eu gwahodd cast-ta-ceiniog. Mae ‘na lawer o weithgareddau i’w gwneud fel partïon gwisgoedd, dowcio afalau, coelcerthi, tai bwgan, a cherfio pwmpenni.
Noson Tân Gwyllt – Dydd Sul, Tachwedd 5 2023 Guto Ffowc a Noson Tân Gwyllt | (TheSchoolRun)
Mae Noson Tân Gwyllt neu Noson Guto Ffowc yn nodi pen-blwydd y Cynllwyn Powdwr-Gwn yn 1605. Ceisiodd Guto Fawkes, o dan arweiniad Robert Catesby a’i gymdeithion ffrwydro’n ddeilchion y Brenin Iago I ac Adeilad y Senedd. Cafodd Guy Fawkes ei ddal a methodd cynllwyn y powdwr gwn. Penderfynodd y Brenin Iago I y dylid dathlu’r 5ed o Dachwedd ac mae tân gwyllt a choelcerthi’n llosgi corffddelwau o Guy Fawkes yn ddathliadau sydd wedi bodoli hyd heddiw yn y DU.