19.07.2024 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Wythnos Caru Parciau (Gorffennaf 26ain – Awst 4ydd)
Dathliad wythnos o hyd yw Caru Parciau (Gorffennaf 26ain – Awst 4ydd) sy’n amlygu’r rôl hanfodol y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae o ran hybu iechyd a lles trigolion a chymunedau.
Trefnwch ddigwyddiadau neu daith i’ch parc lleol gyda’r plant yn y clwb yr haf hwn! Mae’r dathliad wythnos o hyd hwn yn gyfle perffaith i ymgysylltu â’ch cymuned leol, hybu balchder mewn parciau a chael pawb i fwynhau eich mannau gwyrdd anhygoel!
Peidiwch ag anghofio am Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar Orffennaf 22ain –25ain 2024!
Dysgwch am anifeiliaid fferm, beth maen nhw’n ei fwyta, ym mhle maen nhw’n cysgu, a’u henwau? Beth am gynnal cystadleuaeth i’ch anifeiliaid a dylunio rosét i’r enillydd?