Beth am i chi rhoi cynnig ar…Blannu Rhywbeth Bach?

Beth am roi hadau, pridd a photiau bach neu dwb bach i blant? Mae hadau sy’n hawdd eu tyfu, fel berwr, pys neu flodau’r haul, yn tyfu’n gyflym ac yn rhoi cyfle i blant wylio eu hymdrechion yn troi i mewn i fywyd.

Gall y plant benderfynu ble i’w plannu, rhoi dŵr iddynt a gofalu am eu heginyn bach. Mae’n ffordd berffaith o archwilio cyfrifoldeb ac amynedd, yn ogystal â’r pleser o wylio natur yn tyfu.