13.02.2023
Cefnogi’r Iaith Gymraeg
Nod Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn nod hirdymor, ac mae gan y Sector Gofal Plant Allysgol ran allweddol i’w chwarae i’w gyflawni.
Er mwyn cyflawni’r nod, bydd angen newidiadau i’n hymagwedd a’n defnydd o’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod yr holl staff, plant a’u teuluoedd yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg at ddefnydd cymdeithasol a gwaith yn y dyfodol.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cydnabod pwysigrwydd datblygu’r Gymraeg ac yn falch o gymryd rhan weithredol wrth gyfrannu, trwy ein prosiectau, at darged Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ein 3 phrosiect sy’n cefnogi datblygiad yr Iaith Gymraeg yw:
CYMell
Gwyddom fod rhieni’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddarpariaeth gofal plant cyn ysgol, ar ôl ysgol a gofal yn ystod y gwyliau sydd wedi’i chofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru, sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwyddom hefyd am fanteision cael mynediad i leoliadau cyfrwng-Cymraeg lle gall plant chwarae a chymdeithasu gan ddefnyddio’r Gymraeg – a phwysigrwydd hyn wrth gefnogi plant wrth iddynt symud drwy addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae ein prosiect CYMell, sef i ‘ysgogi’, yn gobeithio:
- ysgogi lleoliadau Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog nad ydynt wedi’u cofrestru gydag AGC, i wneud hynny, gan roi cyfle iddynt gefnogi’r Gymraeg, hefyd i gynnig gofal plant mwy fforddiadwy i gefnogi teuluoedd, drwy eu galluogi i ddychwelyd i fyd waith neu hyfforddiant, trwy alluogi lleoliadau i ddarparu Y Cynnig Gofal Plant a Gofal Plant Di-dreth.
- hyfforddi mewn Gwaith Chwarae unigolion sy’n siarad Cymraeg, gan ddileu’r rhwystr yma o ran cymwysterau sy’n atal clybiau rhag cofrestru gydag AGC.
- cefnogi lleoliadau drwy ein Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant Cymraeg ymroddedig.
- darparu cronfa grant i gefnogi lleoliadau sy’n dangos ymrwymiad i gofrestru, gan ganiatáu iddynt dalu costau staff sy’n mynychu hyfforddiant, a’r oriau sy’n gysylltiedig â gweithio tuag at gyflwyno cais i gofrestru
Â’r sector Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn y sefyllfa orau i gefnogi cynnydd yn y Gymraeg mewn plant y tu allan i’r ysgol, cefnogir gweledigaeth Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Darllenwch fwy: CYMell
Yr Addewid Cymraeg
Fel rhan o’n hymrwymiad, i darged Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n bleser gennym gyflwyno’r Addewid Cymraeg i chi..
Mae CWLWM yn cydnabod pwysigrwydd datblygu’r iaith Gymraeg ac mae’n destun balchder iddynt fod yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn rhan o’n hymrwymiad, mae’n bleser mawr gennym eich cyflwyno i’r Addewid Cymraeg.
Mae’r Addewid Cymraeg yn ffordd i leoliadau Gofal Plant a Chwarae chi gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg ac arddangos sut y maent yn gweithio tuag at y Cynnig Gweithiol drwy rannu’r gwaith yn adrannau hydrin. Gall proses Y Cynnig Gweithiol chyflwyno’r iaith Gymraeg beri rhywfaint o fraw ond mae’r Addewid Cymraeg yn rhoi i leoliadau arweiniad gam wrth gam i weithio tuag at hyn, heb eu gorlethu. Mae’r Addewid yn cynnwys cynllun hawdd ei gyflawni a phwyntiau ar gytuno ar sut i weithio ynghyd ac ysbrydoli pawb a fydd ynglŷn â hyn i ddefnyddio’r iaith Gymraeg er lles y plant a’r cymunedau lle maent yn gweithio.
Wrth ymrwymo i’r Addewid bydd modd i’ch lleoliad ddatblygu eich defnydd o’r Gymraeg a chreu amgylchedd lle bydd yr iaith yn rhan naturiol o gynnig y lleoliad i’r plant.
P’un ai yw lleolidau’n dechrau o’r dechrau, neu eisoes yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg, mae’r lefelau efydd, arian ac aur yn rhoi cyfle i leoliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sydd yn addas i chi. Unwaith y byddant wedi cyflawni un lefel gallant symud at y nesaf a gwneud mwy, gyda digonedd o help gan bartneriaid Cwlwm.
Bydd partneriaid Cwlwm yn cefnogi lleolidau drwy bob tystysgrif/lefel o’r Addewid Cymraeg, drwy weithio mewn adrannau hydrin. Mae’r adnoddau sydd hefyd ar gael drwy bartneriaid Cwlwm yn rhoi cefnogaeth ymarferol, a chymorth ehangach drwy gyrsiau Camau Dysgu Cymraeg, a ddarperir ar-lein drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a fydd yn cefnogi ymhellach yr Addewid Cymraeg drwy gynyddu nifer y gweithwyr gofal plant a Gwaith Chwarae sy’n defnyddio rhywfaint o Gymraeg mewn lleoliadau, gan gefnogi’r clwb i symud ymlaen i gyflenwi’r Cynnig Gweithiol.
Mae’r Addewid Cymraeg wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a’i disgrifiodd fel “ffordd i leoliadau osod camau clir, uchelgeisiol a hwyliog yn eu lle er mwyn rhannu’r iaith Gymraeg â’r rhai sy’n eu mynychu, y staff a’r teulu ehangach”.
Fe wnaeth Kevin Barker Pennaeth Archwilio – Gofal Plant a Chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd “groesawu’r datblygiad cadarnhaol hwn i gefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae”.
Camau
Mae cyrsiau Camau yn gyrsiau Hunan Astudio Ar-lein ar lefel Mynediad, sydd wedi’u teilwra ar gyfer ymarferwyr o fewn y sector Gofal Plant a Chwarae, gyda chwrs penodol ar gyfer Gweithwyr Chwarae sy’n defnyddio’r iaith a glywir mewn Clwb Gofal Plant Allysgol. Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd â sgiliau Cymraeg sylfaenol o ran hybu eu hyder ac fel cwrs gloywi. Mae’r cwrs yn cynnwys y canlynol ac wedi’i ariannu’n llawn:
- Dysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda phlant mewn lleoliadau;
- Ynganu’r wyddor, lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifo;
- Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiaid;
- Dysgu patrymau i ofyn ac ateb cwestiynau;
- Dysgu’r amser;
- Siarad amdanoch chi’ch hun;
- Siarad am gynlluniau ar gyfer y dyfodol;
- Dweud beth mae pobl wedi bod/yn ei wneud;
- Dysgu gorchmynion
Mae’r cwrs yn llawn gwybodaeth, yn hawdd ei ddilyn, ac mae Swyddogion Datblygu Iaith Gymraeg, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wrth law i gymell a chefnogi. Rhennir adnoddau PDF ar ddechrau a diwedd pob uned.
Camau Cymraeg Clybiau
Mae’r holl gymorth ymarferol sydd ei angen arnoch i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich lleoliad ar gael ar ein gwefan trwy Camau Cymraeg Clybiau. Mae ystod o adnoddau ar gael sy’n cynnwys geirfa allweddol a ddefnyddir wrth osod o ddydd i ddydd; pecyn Cymraeg achlysurol; a mwy o wybodaeth am y cymorth ehangach sydd ar gael gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Y nod yw gwreiddio arferion ac agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith drwy gynllunio bwriadus o fewn lleoliadau i hybu defnydd anffurfiol ohoni ymhlith staff, plant, a’r gymuned ehangach, gan ddod â phawb ynghyd i weithredu.
Mae’r Gymraeg yn rhan allweddol o’n diwylliant a’n hunaniaeth. Rydym yn addo gwneud yr hyn a allwn i helpu’n frwd i warchod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae croeso i chi gysylltu os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.