Addewid Cymraeg Clybiau

Yn rhan o CWLWM, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cydnabod pwysigrwydd datblygu’r iaith Gymraeg o’i fewn, a chyda balchder â rôl weithgar wrth gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Yn rhan o’n hymroddiad, rydym wedi datblygu addewid iaith Gymraeg ar gyfer lleoliadau. 

Rydym yn deall y gall dechrau allan ar siwrnai tuag at y Cynnig Gweithiol godi braw, ac felly rydym wedi datblygu siwrnai iaith Gymraeg yn arbennig ar gyfer Clybiau Gofal Plant Allysgol. 

Nod yr addewid (gyda chefnogaeth ymarferol Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs)  yw cefnogi eich lleoliad o’r cam cyntaf (Efydd) drwodd i’r cam terfynol (Aur).  Trwy gydol y siwrnai hon, pa mor bell bynnag y dymunwch deithio, byddwch chi’n gallu dangos bod eich lleoliad yn gweithio tuag at y Cynnig Gweithiol, ac o bosibl yn ei gyrraedd. Ar gwblhau’r Aur mae’n bosibl yr hoffech wneud cais am y Cynnig Cymraeg, a fydd yn rhoi cydnabyddiaeth i’ch lleoliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. 

 

Mae’r addewid mewn 3 rhenc. 

  • Efydd- yn yr addewid yma byddwch yn gwneud eich camau cyntaf ac yn addo mynd ati i adeiladu’r sylfeini i ddechrau rhoi’r iaith Gymraeg ar waith yn eich lleoliad. Cyflawnir drwy hunanasesu a chyflwyno tystiolaeth i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 
  • Arian- ar y cam yma byddwch ar eich ffordd go iawn, ac yn addo sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed yn ystod y drefn ddyddiol yn eich lleoliad, a bod mwy o gyfleoedd iaith-Gymraeg yn cael eu rhoi i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Cyflawnir trwy hunanasesu a chyflwyno tystiolaeth i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 
  • Aur-   Y cam terfynol. Wedi rhoi’r Efydd a’r Arian ar waith yn eich lleoliad, y cam terfynol yw eich bod yn addo y bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei chofleidio a’i gwreiddio yn rhediad eich lleoliad o ddydd i ddydd. Byddwch yn mynd ati i gynnig y Gymraeg heb i ddefnyddwyr y gwasanaeth orfod gofyn amdani. Cyflawnir drwy Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, canlyniadau archwiliadau ac arsylwadau AGC. 

Dyfernir tystysgrif ar gwblhau pob lefel unigol. 

Cymerwch gipolwg ar rai o’n llwyddiannau isod:

Trwy ymrwymo i’r Addewid, gweithio tuag at yr elfennau a chasglu tystiolaeth wrth fynd yn eich blaen, byddwch nid yn unig yn rhannu diwylliant a hunaniaeth ryfeddol Cymru â phlant a theuluoedd eich lleoliad, ond hefyd yn mynd ati i ddangos i Arolygiaeth Gofal Cymru sut yr ydych chi’n gweithio tuag at y Cynnig Gweithiol. 

I ddechrau ar eich siwrnai Cymraeg gofynnwn ichi gwblhau ffurflen  Mynegiant o Ddiddordeb, a bydd ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant yn cysylltu â chi i’ch cefnogi ar eich taith. 


 

Adroddiad Effaith yr Addewid Cymraeg Cwlwm 2026

Mae’r Addewid Cymraeg yn ffordd i leoliadau Gofal Plant a Chwarae cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg a dangos eu gwaith tuag at y Cynnig  Gweithredol gan rannu’r gwaith mewn i adrannau bach y gellir eu rheoli. Gall y Cynnig Rhagweithiol a chyflwyno’r iaith Gymraeg ymddangos fel proses anodd i leoliadau ond mae’r Addewid Cymraeg yn darparu canllaw cam wrth gam i leoliadau i weithio tuag at hyn, heb gael eu llethu’n ormodol.

Mae’r adroddiad effaith hwn yn tynnu sylw at y camau cadarnhaol a gymerwyd i gryfhau’r ddarpariaeth iaith Gymraeg a’r gwahaniaeth y mae’r Addewid Cymraeg wedi’i wneud mewn lleoliadau Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru.

Wrth i’r gwaith hwn barhau, mae’r canfyddiadau hyn yn helpu i adeiladu momentwm a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod wrth wraidd ymdrechion i gadw’r Addewid i Gymru.

 

Our partners

Project’s partners