24.02.2023 |
Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2023
Mae’r pecynnau gweithgaredd di-dâl ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2023, a fydd yn digwydd rhwng Mawrth 10 to 19 2023, ar gael i’w lawrlwytho yn awr! Mae’r pecynnau a gynigir yn cynnwys rhai ar gyfer oedrannau ysgolion Cynradd ac Uwchradd.
Y thema ar gyfer cystadleuaeth pecynnau a phosteri 2023 yw ‘Cysylltiadau’, ac mae’r pecynnau’n rhoi ffyrdd hwyliog ac ymgysylltiol o gyflwyno’r thema hon i’r plant.
Mae pob pecyn unigol, sydd wedi eu llunio gyda chefnogaeth of UK Research and Innovation a 3M, yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol a llawn hwyl, ynghyd â digonedd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynllunio’ch digwyddiadau ar gyfer yr Wythnos.
Mae pob pecyn gweithgaredd yn cynnwys sawl thema i ddewis ohonynt, rhai a allai fod o ddiddordeb i’r plant yn eich clwb, yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain a thu hwnt.
Lawrlwythwch eich pecyn yma.