16.02.2024 |
Yn galw pob darparwr gofal plant a chwarae – bydd cyfnod cyflwyno’ch Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (DHG) yn dod i ben ar Fawrth 15
Os ydych yn rhedeg gwsanaeth gofal plant a chwarae a wnaeth gofrestru â ni cyn Rhagfyr 31 2023, mae gofyn ichi gwblhau eich DHG drwy ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn Mawrth 15 2024.
Bydd methu â chwblhau eich DHG erbyn y dyddiad yma yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.
Bydd angen i chi fod â chyfrif AGC Ar-lein i gwblhau eich DHG.
Os nad oes gennych gyfrif Ar-lein AGC, bydd angen ichi weithredu ar frys:
Ewch i AGC Ar-lein neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4.
Am wybodaeth bellach ar gwblhau eich DHG ewch i’r wefan