06.10.2023 |
Camau: Cwrs Iaith Gymraeg sydd wedi ei Gyllido’n Llawn
Mae cwrs Camau yn gwrs Hunan-Astudio Ar-lein ar lefel Mynediad. Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd â sgiliau Cymraeg sylfaenol ar gyfer hwb i’w hyder a sesiwn adnewyddu. .
Mae’r cwrs yn cynnwys y canlynol ac mae wedi’i gylllido’n llawn:
- Dysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda phlant mewn lleoliadau;
- Ynganu’r wyddor, lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifo;
- Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiaid;
- Dysgu patrymau i ofyn ac ateb cwestiynau;
- Dysgu’r amser;
- Siaradh amdanoch chi’ch hun;
- Siarad am gynlluniau ar gyfer y dyfodol;
- Dweud beth mae pobl wedi bod / yn ei wneud;
- Dysgu gorchmynion
- Adnoddau argraffadwy am ddim i’w defnyddio yn eich lleoliadau.
Gan ei fod yn gwrs hunan-astudio gallwch gwblhau’r unedau ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi. Gallwch gael mynediad at y cwrs mor aml ag y dymunwch, fodd bynnag, rydym yn annog pob dysgwr i gyflawni tua un uned yr wythnos (sydd ond yn cymryd hyd at awr!) er mwyn cymryd tua 10 wythnos i gwblhau Mynediad Rhan 1.
Pan fyddwch yn cwblhau cwrs Mynediad 1, byddwch yn derbyn tystysgrif ac yn gallu symud ymlaen i’r Mynediad Rhan 2 a 3 i ennill y cymhwyster Mynediad i’r Gymraeg llawn – Mae hyn yn wych ar gyfer eich DPP a ffeiliau staff!
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/45011986-aacb-ec11-997e-14cb653e1817/