05.01.2026 |
Canllaw i Rieni a Gofalwyr ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Plant 0 i 3 Oed yng Nghymru.
Mae pob babi a phlentyn ifanc yng Nghymru yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd. Dyna pam mae gennym y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.
Fel rhan o’r cynllun hwn, rydym wedi cyflwyno ffyrdd newydd o gefnogi dysgu a datblygiad babanod/plant ifanc o enedigaeth i 5 oed.
Mae’n bleser gennym rannu’r Canllaw Rhieni a Gofalwyr ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Plant 0 i 3 oed yng Nghymru.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut olwg sydd ar yr asesiadau hyn, beth allwch chi ei ddisgwyl, a sut y gallwch chi fod yn rhan o daith eich babi/plentyn ifanc.