Gallwch gyrchu a phori ar ein safle heb ddatgelu eich data personol.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn defnyddio cwcis ar ein safle. Nid ydym yn cofnodi data personol yn awtomatig nac ychwaith yn cysylltu gwybodaeth sy’n cael ei gofnodi’n awtomatig trwy ddulliau eraill â data personol am unigolion penodol.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn casglu data personol y gallech ei wirfoddoli wrth ddefnyddio ein safle. Caiff y data hyn eu casglu am y rhesymau canlynol:
· Aelodaeth
· Ebost / postio newyddlenni
· Dychwelyd eich cais cyswllt
Dychwelyd eich cais am wybodaeth
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn casglu nac yn defnyddio data personol i unrhyw bwrpas ar wahân i’r hyn a nodir uchod.
Os dymunwn ddefnyddio eich data personol i bwrpas newydd, byddwn yn cynnig i chi ffordd i gydsynio i’r pwrpas newydd hwn drwy arwyddo mewn blwch ar y safle lle cesglir data personol.
Y mae’n rheidrwydd ar bob un o’n cyflogeion a phroseswyr data, sydd â mynediad i ddata personol, ac sy’n gysylltiedig â’i phrosesu, i barchu cyfrinachedd data personol ein hymwelwyr.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn eich sicrhau na chaiff eich data personol eu datgelu i sefydliadau ac awdurdodau’r Wladwriaeth oni bai ei bod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith neu reoliad arall. Am wybodaeth bellach gwelwch ein Polisi Preifatrwydd
Wrth ddarparu eich gwybodaeth ar-lein rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth fel y caiff ei osod yn y polisi preifatrwydd. Os nad ydych yn dymuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth berthynol i bwrpasau marchnata uniongyrchol neu os nad ydych yn dymuno i ni ryddhau eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti, anfonwch e-bost i info@clybiauplantcymru.org
Yn ôl Deddf Diogelu Data 1998, cewch wneud cais am fanylion personol amdanoch sydd yn ein meddiant. Bydd ffi swyddogol yn daladwy. Os dymunwch wneud cais dylech ysgrifennu at:
Y Prif Swyddog Gweithredol
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Tŷ’r Bont
Ffordd yr Orsaf
Llanisien
Caerdydd
CF14 5UW
Os credwch fod unrhyw wybodaeth amdanoch sydd yn ein meddiant yn anghywir neu’n anghyflawn, dylech ysgrifennu at ein Swyddog Cydymffurfio Diogelu Data yn y cyfeiriad uchod. Cywirir mor fuan ag sy’n bosibl unrhyw wybodaeth y ceir ei bod yn anghywir.
Ymdrechwn i amddiffyn diogelwch y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni, a defnyddiwch fesurau cyfamserol i ddarparu’r diogelwch hwnnw.