
14.03.2025 |
Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025
Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ein 4ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar Fawrth 12fed 2025, gan ffrydio’n fyw ar YouTube a thros 1,000 o ymweliadau hyd yma! Hoffem ddiolch i’n siaradwyr gwadd trwy ddarparu gwybodaeth mor addysgiadol, perthnasol a diddorol: Pip Dimmock – Prif Swyddog Gweithredol Interplay, a Charon Eastlake, Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Gofal Plant a Chwarae, Is-Adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd deg gwobr, a chawsom lawer o enwebiadau teilwng ar eu cyfer, sy’n dangos y gwaith gwych sy’n digwydd yn y sector i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, teuluoedd a chymunedau. Llongyfarchiadau i’r holl Weithwyr Chwarae, Gwirfoddolwyr, Rheolwyr, Pwyllgorau a Chlybiau a enwebwyd ledled Cymru a’r enillwyr. Mae wir yn fraint eich cefnogi chi a’ch clybiau.
Ein Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025.
Dathlu Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2025
Hyrwyddwr Iaith Gymraeg: Clwb Ol-Ysgol Two Tribes, Sir Fynwy
Clwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ac wedi ymdrechu i wella lefel y Gymraeg sy’n cael ei hymgorffori yn y Lleoliad, a chefnogi eu dysgu eu hunain
neu ddysgu o eiddo eraill.
“Mae hwn yn wasanaeth llwyddiannus sy’n cael ei redeg yn dda, sydd wedi’i gofrestru gydag AGC ers mis Gorffennaf 2014. Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli tua 1.5 milltir o Bont Tywysog Cymru mewn ardal Saesneg ei hiaith yn bennaf. Mae’r clwb wedi bod yn ymwneud yn llawn â Chlybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ers blynyddoedd lawer, mae’r staff bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ymgorffori’r Gymraeg yn y lleoliad ac eisoes wedi dechrau integreiddio rhywfaint o Gymraeg o fewn y drefn feunyddiol, hyd yn oed cyn dilyn y cwrs Camau. Rwyf bob amser wedi fy nghyfareddu gan frwdfrydedd ac ymroddiad yr arweinyddiaeth a’r staff tuag at annog defnydd o’r Gymraeg o fewn y lleoliad. Mae’r holl staff yn cyfarch rhieni bob dydd drwy ddweud ‘prynhawn da’ ac yn defnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt. Mae hyn wedi arwain at adborth cadarnhaol iawn gan lawer o rieni a gwarcheidwaid ynglŷn â’u defnydd o’r Gymraeg; y gwarcheidwaid Cymraeg eu hiaith yn canmol eu hymdrechion a rhai rhieni cyfrwng Saesneg bellach yn ymateb i’w cyfarchion yn Gymraeg hefyd. Mae’r clwb hwn wedi diweddaru eu Datganiad Hunanasesiad diweddaraf i ddweud eu bod yn gweithio’n frwd tuag at y Cynnig Rhagweithiol, ac mae’r staff yn awyddus i barhau â’u gwaith gwych a’u hymrwymiad i’r Gymraeg a’r Cynnig Rhagweithiol.”
Cefnogi Llesiant Staff: Meithrinfa Plantos Nursery, Caerdydd
Rheolwr, Perchennog, Arweinydd Chwarae neu Bwyllgor sydd wedi ymdrechu i gefnogi iechyd meddyliol a llesiant eu staff, er mwyn creu amgylchedd chwarae sy’n iach ac yn gadarnhaol.
Mae lles y plant a’r staff ar agenda pob cyfarfod yn y feithrinfa. Mae’r perchennog yn rhannu gwybodaeth yn fisol am wahanol bynciau i helpu gydag iechyd meddwl. Mae’r tri rheolwr yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Rydym yn cyflwyno calendr lles i bob aelod o staff yn fisol a hefyd yn eu cyfeirio at rifau llinellau cymorth. Mae bocs hunangymorth yn ystafell y staff a bwletinau ar y wal. Mae arolwg hefyd yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn i weld sut rydyn ni fel meithrinfa yn delio â lles ein staff. Mae gennym nosweithiau allan, siopau cludfwyd, danteithion i’r staff ac anrhegion dros y Nadolig. Rydym hefyd yn rhoi tystysgrifau am bresenoldeb yn y gwaith. Mae lles hefyd yn bwynt ar ein hadolygiadau staffio 1-1 chwarterol.
Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Menna Machreth, Clwb Plant Segontiwm, Gwynedd
Gwirfoddolwr sydd wedi Gweithio’n galed ac wedi buddsoddi eu hamser eu hunain i gefnogi eu Clwb Gofal Plant All-ysgol a’r gymuned.
Mae Menna wedi bod rhodd oddi uchod i’n clwb ni, gan ein helpu i gefnogi datblygiad y clwb gan fynd drwy’r broses dendro yn ogystal â chefnogi a bod yn aelod gweithgar o’r pwyllgor. Mae Menna wedi bod yn ysgrifennydd y pwyllgor am ychydig llai na 2 flynedd hyd yn hyn ac er ei bod yn gweithio’n ddyddiol, a bod ganddi deulu gartref, mae wedi rhoi cymaint o gefnogaeth – a’I hamser – i ni i helpu i ddod â’r clwb yn ei flaen. Mae Menna wedi gallu defnyddio ei phrofiad proffesiynol o weithio gyda Mudiad Meithrin i’n cynorthwyo gyda pholisïau a gweithdrefnau, yn ogystal â phethau gweinyddol eraill. Mae Menna wedi cefnogi ein staff i ennill eu cymwysterau ac wedi gadael i’r staff gysgodi ei gwaith gyda Mudiad er mwyn hybu eu datblygiad proffesiynol parhaus. Diolchwn i Menna am weithio’n ddiflino i gefnogi ein clwb.
Dysgwr y Flwyddyn: Caroline Jasmine Williams, Gofal Plantos Prysur Childcare, Carmarthenshire
Dysgwr sydd wedi gweithio’n galed i gyflawni neu wneud cynnydd tuag at ennill cymhwyster gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Gallai hyn fod wedi cynnwys cefnogi cymheiriaid, cyfrannu’n dda mewn sesiynau, gwneud y gorau o’r profiad dysgu, neu oresgyn heriau ag angerdd a phenderfyniad.
Rwyf wedi enwebu Jasmine gan ei bod wedi cael y cyfle yn flaenorol i gwblhau ei hyfforddiant Gwaith Chwarae yn ystod cyflogaeth flaenorol ond nid oedd yn gallu gwneud hynny am wahanol resymau. Hoffwn ddangos fy niolch iddi gan ei bod wedi dangos penderfyniad i gwblhau llyfrau gwaith yn ymwneud â’i chwrs yn ogystal â rhoi’r theori ar waith. Mae Jasmine hefyd wedi rhoi ei hamser rhydd ei hun i gefnogi un arall o’n lleoliadau. Mae’n amlwg hefyd bod y plant yn ei gofal yn mwynhau ei chwmni, o chwarae gêm o ddyfalu pwy, i redeg o gwmpas y tu allan, maent yn hoff o’i gwahodd i mewn i’w chwarae.
Hyrwyddwr Chwarae: Clwb Gogerddan, Ceredigion
Clwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi hyrwyddo hawl plant i chwarae ac sydd wedi ymdrechu i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd da i’r plant yn eu gofal.
Mae chwarae wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud yng Nghlwb Gogerddan. Maent wedi datblygu eu Harweinydd Chwarae-gogy eu hunain yn ddiweddar. Staff yw asedau mwyaf gwerthfawr Gofal Plant Gogerddan ac maent yn rhoi sylw i ddiddordebau a sgiliau staff i ddatblygu sgiliau gyda’r plant. Maent wedi datblygu clwb garddio a sgiliau coginio, ac mae ganddynt Arweinwyr Ysgol Goedwig sy’n sicrhau bod plant yn cael pob cyfle i chwarae tu allan beth bynnag fo’r tywydd. Yn ddiweddar, defnyddiwyd Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Llywodraeth Cymru i ddatblygu man chwarae awyr-agored ar dir Ysgol Rhydypennau lle mae Clwb Gogerddan yn cael ei redeg. Mae hyn nid yn unig wedi bod mor fuddiol i’r Clw, mae’r Ysgol a Chylch Meithrin Rhydypennau hefyd yn gallu cael mynediad i’r gofod allanol. Uchafbwyntiau adroddiad AGC: Mae’r bobl sy’n rhedeg y lleoliad yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar. Maent yn darparu mannau gwych i blant chwarae a chymdeithasu â’i gilydd a lle mae ganddynt ryddid i symud o gwmpas yn annibynnol ac yn ddiogel. Mae’r bobl sy’n rhedeg y lleoliad a’r staff yn paratoi’r mannau chwarae’n ofalus er mwyn galluogi’r plant i gael y profiadau gorau posibl.
Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn: Leanne Stephens, Clwb Ol-Ysgol Two Tribes/Two Tribes After School Club, Sir Fynwy/Monmouthshire
Gweithiwr Chwarae sy’n ymgorffori’r gwyddorion Gwaith Chwarae ac sydd wedi mynd yr ail filltir i roi gwasanaeth rhagorol i blant, rhieni/gofalwyr a’r gymuned leol.
“Mae hi’n aelod gwerthfawr iawn o’r tîm ac yn mynd gamau lawer ymhellach i sicrhau bod y plant yn y clwb yn hapus, yn ymgysylltu, yn ddifyr ac yn teimlo’n ddiogel. Hi sydd wedi ein hysgogi i dderbyn ein Dyfarniad Arian yn yr Addewid Cymraeg! Mae hi’n cefnogi’r tîm rheoli a gweddill y tîm yn ein hymrwymiad parhaus i hybu ein hiaith Genedlaethol yn y clwb. Mae hi wedi datblygu ffolder Dysgu Cymraeg yn annibynnol lle gellir dod o hyd i eiriau/ymadroddion allweddol i gefnogi’r plant a’r gweithwyr Chwarae. Mae’n trefnu sesiynau a gemau hwyliog gyda’r plant i hybu’r Gymraeg trwy chwarae. Mae’n haeddiannol iawn o’r wobr hon a diolchwn iddi am ei hymroddiad, ei hymrwymiad a’i chefnogaeth.”
Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus: Bridging the Gap, Merthyr Tudful
Clwb Gofal Plant All-ysgol sy’n ymroi i annog a chefnogi ei staff i fynychu hyfforddiant a gweithdai i ategu at eu datblygiad proffesiynol, er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth ofal plant o ansawdd a gynigir i’r gymuned leol.
Mae Bridging the Gap yn Glwb Ar Ôl Ysgol a Gwyliau cwbl gynhwysol ar gyfer plant 3-19 oed sydd ag anghenion ychwanegol. Ers cymryd yr awenau fel rheolwr y lleoliad, mae Lisa wedi gwneud ymdrech drawiadol i ddatblygu ei dysgu a’i dealltwriaeth o’r sector Chwarae wrth weithio tuag at ei chofrestriad gydag AGC. Er bod ganddi brofiad yn y maes, mae’n awyddus i symud ymlaen a chadw ei gwybodaeth yn gyfredol. Mae Lisa wedi mynychu nifer o Glybiau Hwb ochr yn ochr â gweithio ar ein Hasesiad Gofal Plant All-Ysgol (AGPA). Gwiriad Diogelu Iechyd a Phecyn Cymorth Gwrth-hiliaeth. Mae ei hymdrech wedi bod yn esiampl wych i staff, wrth eu hannog nhw hefyd i fynychu hyfforddiant DPP.
Hyrwyddo Amrywedd Cadarnhaol: TEMPS Out of School Club, Wrexham
Clwb All-Ysgol sydd wedi ffocysu ar greu diwylliant cyfoethog lle y gall gweithwyr, plant a theuluoedd ffynnu a dathlu eu hamrywiaethau a’u gwahaniaethau mewn ethos cynhwysol.
Mae’n bleser gennyf enwebu TEMPS ar gyfer y wobr hon i gydnabod eu hymrwymiad eithriadol i amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r sefydliad wedi cyflogi gwraig o’r Wcráin, gan roi cymorth amhrisiadwy iddi wrth iddi ymgartrefu yn y gymuned leol. Mae Ymddiriedolwyr a Staff TEMPS wedi mynd gam ymhellach i’w helpu i ddod o hyd i lety lleol iddi hi a’i dau blentyn. Maen nhw hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu ei chartref drwy gyfrannu eitemau hanfodol, gan sicrhau ei bod hi a’i theulu’n teimlo bod croeso a chefnogaeth iddi. Gan gydnabod ei hangen am ddatblygiad sgiliau iaith, ac yn unol â gofynion y Llywodraeth am ei fisa gweithio a chaniatâd i aros yn y DU, mae’n mynychu gwersi Saesneg yn y Coleg lleol ac mae aelod o staff y Clwb yn rhoi cymorth ymarferol iddi drwy ofalu am ei phlant. Er mwyn ei chefnogi ymhellach, mae’r pwyllgor wedi trefnu lle am ddim i un o’i phlant yn y clwb, gan eu galluogi i elwa ar barhad gofal a mwynhau amgylchedd diogel, cynhwysol ochr yn ochr â’u cyfoedion. Mae’r agwedd feddylgar a chydweithredol hon yn dangos ymrwymiad y clwb i feithrin awyrgylch cynhwysol, cefnogol i bob teulu, waeth beth fo’u cefndir ac mae’n enghraifft wych o sut y gall sefydliad sy’n canolbwyntio ar y gymuned wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau unigolion a theuluoedd, gan greu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Hyrwyddwyr Cynhwysiant: Dylan’s Den, Rhondda Cynon Taf
Clwb Gofal Plant Allysgol sy’n gweithio’n galed i roi darpariaeth gynhwysol ac o ansawdd, ac i gefnogi hygyrchedd i’r holl blant, staff a theuluoedd.
Mae Dylan’s Den wedi mynd gamau lawer ymhellach i helpu plant o bob cefndir. Mae’r plant yn dysgu am wahanol ddiwylliannau, gwahanol alluoedd plant, a sut i gefnogi ei gilydd. Mae’r holl staff wedi’u hyfforddi mewn ADY, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chyfle cyfartal. Mae Dylan’s Den yn falch o’n staff sy’n gweithio’n hynod galed i wneud Dylan’s Den yn ddarpariaeth gwbl gynhwysol o safon.
Clwb Allysgol y Flwyddyn: Clwb Gogerddan, Ceredigion
Lleoliad sy’n ymgorffori’r Egwyddorion Gwaith Chwarae ac sy’n enghraifft ragorol o fudd chwarae a gofal plant o ansawdd i blant, teuluoedd a chymunedau.
Mae Clwb Gogerddan yn nodi mai ei adnodd mwyaf gwerthfawr yw’r staff. Mae’r Rheolwr yn sicrhau bod pob aelod o’r tîm yn cael ei werthfawrogi o fewn y gwasanaeth. Cânt gyfle i ddathlu a rhannu cyflawniadau gyda’i gilydd. Mae ganddynt ddigwyddiadau i gefnogi lles y staff o Yoga i wibdeithiau, codi arian ac ati. Cynhelir gwasanaeth gwobrau staff blynyddol lle gofynnir i rieni roi adborth ar y digwyddiad. Amlygodd adroddiad arolygu diwethaf AGC ar gyfer Clwb Gogerddan sut mae plant yn mwynhau gwneud penderfyniadau wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae naws hapus iawn i bob rhan o’r lleoliad, ac mae’n amlwg bod y plant yn teimlo’n ddiogel a bodlon. Dywedodd y staff fod y lleoliad yn lle hapus iawn i weithio ynddo a’u bod yn cydweithio’n dda fel tîm. Dywedodd staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn cael eu cefnogi’n dda gan y tîm rheoli, sy’n eu galluogi i gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau yn effeithiol ac yn hyderus. Disgrifiodd staff eu harweinwyr fel rhai hawdd siarad â nhw, yn gefnogol ac yn garedig, a gwelwyd tystiolaeth bellach o hyn mewn adborth ysgrifenedig a rannwyd yn ystod eu dathliad blynyddol o wobrwyo staff. Mae sicrhau lles y staff a’r plant sy’n mynychu yn allweddol i lwyddiant y lleoliad hwn wrth iddynt ymdrechu i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i bawb dan sylw.”
Rhestr o’r Gweithwyr Chwarae a raddiodd yn 2024 (Ionawr – Rhagfyr) a’r Cyflawnwyr Dysgu Cymraeg
Hoffem hefyd ddathlu ein Gweithwyr Chwarae a raddiodd yn 2024 (Ionawr – Rhagfyr) a’n cyflawnwyr Dysgu Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn fe welsom nifer rhyfeddol o Weithwyr chwarae’n ymgysylltu â’u hyfforddiant gyda ni, ac o ganlyniad yn ffynnu yn eu rolau, wrth i’r dysgwyr wneud newidiadau ystyrlon i’w harferion er budd plant ar hyd a lled Cymru.
Dyw hi ddim yn rhy hwyr i wylio’r Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol!
Cliciwch ar y ddolen yma i wylio ar Youtube yn awr