05.01.2023 |
Cynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022 / 2023
Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gwahodd ceisiadau i gynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022 / 2023 i gefnogi, cynnal a gwella cynaliadwyedd y gofal plant presennol. Gofynnir i chi gysylltu â Thîm Gofal Plant eich Awdurdod Lleol yn ddi-oed. Er bod amrywiadau rhwng awdurodau a gwahanol derfynau amser, mae’r ariannu ar gyfer gweithiau cyfalaf a / neu i brynu cyfarpar cyfalaf.
Rhaid cwblhau’r holl waith a’r ariannu gofynnol erbyn Mawrth 31 2023.