08.05.2024 |
Cynnig Gofal Plant Cymru – Newid i ddyddiadau agor ffenestri cais
Roedd adborth diweddar gan rieni yn nodi eu bod yn ansicr pryd y gallent wneud cais am y Cynnig gan fod dyddiadau agor ffenestri cais yn amrywio ledled Cymru. Rydym felly wedi cytuno ag awdurdodau lleol y bydd un dyddiad yn cael ei bennu i bawb ledled Cymru er mwyn sicrhau cysondeb i rieni a darparwyr gofal plant. Bydd y ffenestr geisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn agor 75 diwrnod cyn dechrau’r tymor bellach, felly.
Daw’r newid i rym mewn pryd ar gyfer y rhai a fydd yn manteisio ar lefydd y Cynnig Gofal Plant o dymor yr hydref, sy’n dechrau ar 2 Medi 2024. Bydd y ffenestr geisiadau ar gyfer gofal plant a ariennir gan y Cynnig Gofal Plant ar gyfer tymor yr hydref 2024, felly, yn agor o 19 Mehefin 2024. Fel bob amser, gofynnir i rieni a gymeradwyir i dderbyn y Cynnig Gofal Plant gysylltu â’u dewis ddarparwr gofal plant er mwyn trafod eu hanghenion, cyn sefydlu Cytundeb ar blatfform Cynnig Gofal Plant Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth i ddarparwyr gofal plant ar Gynnig Gofal Plant Cymru ar gael yma: Cymorth i ddarparwyr gyda Chynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU